Tramffordd John Robinson

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:10, 1 Tachwedd 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Adeiladwyd Tramffordd John Robinson gan ŵr o'r enw hwnnw i gludo llechi o'i chwarel, Chwarel y Fron i gysylltu â thraciau Rheilfordd Nantlle yn ardal Tal-y-sarn, fel y gellid cludo'r llechi at y cei yng Nghaernarfon; ac wedi agor cangen o'r lein fawr hyd orsaf Nantlle ar hyd y lein fawr at gwsmeriaid ledled Prydain.

Ym 1867 cafodd Robinson ran yn rheolaeth Chwarel Tal-y-sarn yn ogystal â'r Fron, a sylweddolodd fod modd sicrhau tramffordd a fyddai'n cludo llechi o'r Fron heb fennu ar ddiddordebau cynhyrchwyr llechi eraill. Y bwriad oedd adeiladu tramffordd ryw filltrir o hyd ar led 3' 6" (sef yr un lled â chledrau Rheilffordd Nantlle) a chreu incléin hir 700 llath o hyd o'r ucheldir i lawr trwy Chwarel Tal-y-sarn i gysylltu â thraciau ar waelod y chwarel honno. Cafodd yr hawl, am rent enwol o swllt y flwyddyn, i adeiladu'r lein ar draws tir comin y Goron o Chwarel y Fron. Disgwylwyd mai £1850 fyddai cost y fenter, y gellid ei hagor o fewn tri mis, ac y byddai'n lleihau'r gost o gludo llechi i Gei Caernarfon yn sylweddol.

Mewn gwirionedd, oherwydd anghydweld ynglŷn â ffiniau, yr oedd angen incléin hirach ac ni agorwyd y dramffordd tan 1869. Prynwyd 100 o wagenni i redeg rhwng y chwarel a phen draw'r lein (ac efallai ar y darn o Reilffordd Nantlle rhwng Pant a'r Cei).[1] Yn y diwedd, rhedai'r dramffordd o dwll Chwarel Braich i gyfeiriad y de-orllewin ar hyd tir sydd hyd heddiw yn llain o gomin heibio Gwyndy, wedyn ar draws y tir agored rhwng Bwlch-y-llyn a'r Fron,[2] heibio Bryn-twrog a Greenland ac wedyn hyd at Pen-deitsh, lle aeth i dir Chwarel Tal-y-sarn ac at yr incléin.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), t.248, 250
  2. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), t.217
  3. Mapiau Ordnans 25" i'r filltir, Caernarvonshire XXI.5 & 9