Chwarel Pretoria

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:44, 26 Hydref 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwarel lechi bach oedd Chwarel Pretoria (SH 515551) ar gomin Moel Tryfan ger pentref Y Fron. Roedd yn un o'r unig chwareli i fod heb gysylltiad â rheilffordd/tramffordd yn yr ardal, er mae'n debyg iddi ddefnyddio'r tramffordd a redai trwy'r Fron. Fe'i hagorwyd yn ystod y 1860au gan Gwmni Llechi Brynfferam, fel estyniad o'u gwaith yn Chwarel Brynfferam gerllaw. Roedd yno ddau dwll chwarel, ond cymharol ychydig o waith a wnaed yno. Oherwydd y prinder o lechi'n genedlaethol yn sgil streic y Penrhyn, 1900-03, bu partneriaeth leol gyda prydles oddi wrth gwmni Brynfferam ei hailagor am ychydig.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), t.278-9