Chwarel Pretoria
Chwarel lechi bach oedd Chwarel Pretoria (SH 515551) ar gomin Moel Tryfan ger pentref Y Fron. Roedd yn un o'r unig chwareli i fod heb gysylltiad â rheilffordd/tramffordd yn yr ardal, er mae'n debyg iddi ddefnyddio'r tramffordd a redai trwy'r Fron. Fe'i hagorwyd yn ystod y 1860au gan Gwmni Llechi Brynfferam, fel estyniad o'u gwaith yn Chwarel Brynfferam gerllaw. Roedd yno ddau dwll chwarel, ond cymharol ychydig o waith a wnaed yno. Oherwydd y prinder o lechi'n genedlaethol yn sgil streic y Penrhyn, 1900-03, bu partneriaeth leol gyda prydles oddi wrth gwmni Brynfferam ei hailagor am ychydig.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), t.278-9