Chwarel Hafod-y-wern

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:06, 24 Hydref 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Chwarel Hafod-y-wern yn un o chwareli llechi mwyaf Dyffryn Gwyrfai, a safai ar ochr Uwchgwyrfai i'r dyffryn, ar draws y tir gwastad ar lan yr afon. (SH 489539) gyferbyn ag eglwys Betws Garmon. Roedd yn un o chwareli a berthynnai i Gwmni Llechi'r Goron Moel Tryfan (Moel Tryfan Crown Slate Co. Ltd.) erbyn yr 1880au ond fe'i caewyd ym 1885.[1] Mae llawer o olion y chwarel ar ochr Uwchgwyrfai i'w gweld o briffordd trwy'r dyffryn.

Roedd gan y chwarel Tramffordd Hafod-y-wern neu seidin weddol hir o iard Gorsaf reilffordd Betws Garmon a ddefnyddid i anfon y llechi i lawr Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru a agorwyd ym 1877.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry, (Newton Abbot, 1974), t. 322-3.
  2. J.I.C. Boyd, Narrow Gauge Railways in South Caernarvonshire, Cyf. 1, (Oakwood Press) 1988, t.194