Mynydd Llanllyfni
Mynydd Llanllyfni yw'r hen enw a arddelid ar gyfer ardaloedd Nebo a Nasareth heddiw, a llethrau'r mynyddoiedd y tu draw iddynt. Cyn dyddiau cau'r tiroedd comin a chreu tyddynod ar dir diffaith, roedd y tir uchel mewn plwyf yn cael ei ddefnyddio fel tir pori yn yr haf,a byddai gan bawb o'r plwyfolion y plwyf penodol hwnnw hawl i droi eu hanifeiliaid "i'r mynydd". Weithiau mewn hen ddogfennau ceir sôn am anifeiliaid yn pori "yn y mynydd", sef ar y tir agopred hwn.
Sylwer nad mynydd ("mountain") sydd yma, ond yn hytrach mynydd yn yr ystyr o dir mynyddig neu lethrau mynydd.
Fe erys hawliau pori tir comin lle nad yw'r tir wedi ei gau i mewn o hyd, ond erbyn hyn mae'r hawl wedi cyfyngu y rhan amlaf i ddeiliaid y ffermydd hynny a wnaeth gofrestru eu hawliau tua diwedd y 20g gyda'r Cyngor Sir. Mae'r mynydd-dir yn swyddogol yn eiddo i'r Goron.
Wrth i sgwatwyr a chwarelwyr gau mwy a mwy o dir comin a'i droi'n gaeau,ffurfiwyd casgliadau o dai a phentrefi. Codwyd capeli ac yn achos Mynydd Llanllyfni, mae pentrefi Nebo a Nasareth wedi tyfu nes iddynt achosi arddel enwau newydd ar yr hen fynydd-dir agored.
Un cyfeiriad gweddol gynnar o ddefnydd yr enw yw hynny yn stori Martha'r Mynydd. Arferai Martha ddenu pobl i'w thŷ ar Fynydd Llanllyfni gyda hanesion bod tylwyth teg i'w gweld yno a chysylltir yr hanes hefyd efo sipsiwn oedd arfer gwersylla ar y mynydd yn ystod yr haf.[1]
Ymysg trigolion yr ardal oedd David Thomas Jones, Hafod-yr-esgob, Mynydd Llanllyfni (neu Nebo), a elwid ar lafar gwlad yn "Ddoctor Mynydd", sef talfyriad oDdoctor Mynydd Llanllyfni