Eglwys y Bryn
Eglwys y Bryn oedd yr enw a ddewiswyd ar yr achos unedig pan ddaeth y ddau gapel o eiddo'r Methodistiaid Calfinaidd ar gyrion Y Groeslon at ei gilydd. Unwyd yr aelodaeth, a sefydlwyd un set o swyddogion a blaenoriaid, ond cadwyd y ddau adeilad, sef Capel Bryn-rhos a Capel Bryn'rodyn (MC) fel mannau addoli, gyda'r gwasanaethau'n cael eu cynnal bob yn ail yn y dddau adeilad. Pan ddaeth yr achos i ben fis Gorffennaf 2018 (gan uno'n swyddogol efo Capel y Groes (MC), Pen-y-groes), fe gaewyd y ddau adeilad a'u gwerthu.[1]
Ni ddylid cymysgu Eglwys y Bryn gyda chapel o'r enw Capel y Bryn, a sefydlwyd gan Gapel Carmel (MC) ym 1906 mewn pentref bach a oedd yn cynyddu bryd hynny, sef pentrefan Capel-y-bryn. Caeodd yr achos hwnnw cyn diwedd yr 20g.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Gwybodaeth bersonol'