Capel Glan-rhyd (MC), Llanwnda

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:41, 2 Medi 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Capel Methodistaidd ym mhentref Dinas, Llanwnda yw Capel Glan-rhyd, a agorwyd ym 1899.

Erbyn y 1890au, roedd ardal Glan-rhyd a Llanwnda, a oedd cyn hynny'n ddim mwy na lleoliad fferm neu ddwy a thai Tan-cefn yn datblygu gyda mwy o dai’n cael eu codi, megis Rhes Glan-rhyd a Rhes Gwelfor yn Llanwnda. Roedd yr ardal yn dod yn fwy poblog, a doedd Ysgoldy Graeanfryn (MC), Llanwnda a oedd wedi gwasanaethu fel ysgol Sul a man cynnal oedfaon pnawn Sul bellach mewn cyflwr da ac yn sicr yn rhy fach.

Cafodd swyddogion Graeanfryn, sef Robert Griffith (Garth), David Williams (Gadlys) a William Griffith (Maen Gwyn), wahoddiad draw i blasty newydd Gwylfa rywbryd ar ddechrau 1897 i gwrdd â’r perchennog, gŵr o’r enw Thomas Williams, Gwylfa a oedd yn flaenor yng Nghapel Bwlan. Roedd yn awyddus i weld codi capel newydd yn lle’r hen ysgoldy a hynny mewn man cyfleus. Cyfarfod byr a phwrpasol oedd yno, Thomas Williams yn siarad, a’r lleill yn gwrando. Byddai’n fodlon helpu i godi’r arian angenrheidiol, meddai, a rhoi plot o dir. Hynny ar ddwy amod: 'fyddai ysgoldy Graeanfryn ddim yn parhau i gael ei ddefnyddio; ac nad oedd neb i ddefnyddio’r capel newydd fel siambr sorri (i ddefnyddio ei eiriau ef). Roedd y tri swyddog wrth eu bodd: yng ngeiriau David Williams, “felly yr oeddem yn mynd gartref y noson honno yn llawen”. Trafodwyd y cynllun y Sul wedyn gyda chynulleidfa Graeanfryn, a phawb yn cyd-lawenhau’n unfrydol. Nid felly pawb yn eglwysi eraill y cylch, fodd bynnag. Roedd Capel Brynrhos (MC) (a agorwyd ym 1880) wedi dwyn talp o aelodaeth Capel Bryn’rodyn (MC), a dyma fygythiad arall i nifer aelodau’r achos. Teimlai rai yn y Bwlan, Horeb (Rhostryfan) a’r Bontnewydd yr un fath. Gwgu’n ddistaw oedd yr amheuwyr, yn ôl David Williams, ond roedd hi’n angenrheidiol perswadio’r cyfarfod misol bod angen capel newydd. Anfonodd y Cyfarfod hwnnw ddau gennad i drafod y syniad, a thrwy lwc, dau ddyn call a chymedrol a gaed, sef y Parch D Williams, Cwm-y-glo, ac Evan Jones, Plas Dolydd, blaenor ym Mryn’rodyn a chontractwr lleol. Cwrddant â chynrychiolwyr Graeanfryn (a oedd, rhaid cofio, yn aelodau o achos Bryn’rodyn) a rhai o’r brif eglwys, sef Bryn’rodyn ei hun. Ewyllys da, a synnwyr cyffredin enillodd y dydd (ar y wyneb o leiaf), ac yn y man, bwriwyd ati gyda’r cynlluniau, gyda sêl bendith y Cyfarfod Misol oedd yn gweld digon o gyfiawnhad dros gapel newydd fel “asgellaid” o eglwys Bryn’rodyn.

Tra oedd trafodaethau’n dal ymlaen o un cyfarfod misol i’r nesaf yn ystod 1897, gyda’r gwrthwynebwyr, mae’n debyg, yn codi rhai anawsterau, roedd pwyllgor bach o swyddogion yn trafod trefniadau ar gyfer y capel newydd. Gofynnwyd i Mr Evan Evans, syrfëwr y sir a phensaer yng Nghaernarfon, i wneud cynllun am gapel gyda festri fach yn y cefn. Roedd gwraig Thomas Williams o’r farn y byddai tŵr pigfain yn ychwanegu at harddwch y lle, ac fe gynigiodd hi £200 at y gost ychwanegol.

Galwyd wedyn am dendrau gan gontractwyr. Er i’r contractwr lleol, Evan Jones, Dolydd roi tendr i mewn, roedd ei bris yn uwch o dipyn na Jones ac Owen o’r Ffor, ac fe benderfynwyd ar eu cwmni nhw. Y pris oedd £2106.10.0, a £41.10.0 yn ychwanegol am osod galeri yn yr adeilad. Yn arian heddiw, fyddai hynny ychydig dros £230,000. Roedd Thomas Williams a’i wraig rhyngddynt wedi addo dros hanner y gost, sef £1200. Cychwynnwyd ar y gwaith yn ystod ail hanner 1898 ac erbyn yr haf canlynol roedd y capel yn barod. Roedd y cerrig nadd wedi dod o chwarel Trefor a’r cerrig rwbel ar gyfer y waliau mewnol wedi eu cloddio o un o gaeau’r Gadlys dros ffordd i’r Bryn.

Rhaid holi ble oedd Thomas Williams, y prif noddwr, am weld codi’r capel newydd? Yn ddistaw bach, roedd eisoes wedi prynu Cae Mawr, lle saif y capel heddiw, a hynny ym 1897, er mwyn sicrhau safle strategol i'r capel newydd. Dyw safle Graeanfryn brin dau led cae oddi wrth Gwylfa, cartref Thomas Williams - ond mae dau led cae’n wahanol iawn os nad oes ffordd ar eu traws! Roedd Cae Mawr, ar y llaw arall ,â manteision amlwg o ran lleoliad. Roedd y cae mewn man hwylus ar y lôn bost, lle'r oedd nifer o ffyrdd yn cwrdd. Gallai rhywun ei chyrraedd ar hyd ffyrdd (yn hytrach na llwybrau mwdlyd) o bob cyfeiriad yn y cyffiniau: o gyfeiriad Dinas, o’r ffermydd tua Rhos-isaf a’r Dolydd, tai Tan-cefn ac ar hyd lôn Pwllheli, a draw am y Parc a Rhedynog. Rhaid oedd i gapel newydd fod yn ddigon pell oddi wrth unrhyw gapel Methodist arall. Hefyd, yr oedd tai newydd yng Nglan-rhyd, ac roedd cartrefi’r tri swyddog, Gadlys, Garth a Maen Gwyn nid nepell o Glan-rhyd. Tybed hefyd oedd yr haelionus Thomas Williams yn ystyried mai cwta hanner milltir ar hyd ffordd iawn oedd ei gartref fo o’r llecyn a gynigiodd. Hawdd fyddai iddo fo a Mrs Williams gyrraedd y capel newydd mewn steil gyda cheffyl a thrap.

Holl gost adeiladu'r capel oedd £2,800. Fe'i hagorwyd yn swyddogol ar Gorffennaf 6ed 1899[1][2].

Dewch i ni yn awr droi’n ôl at y capel ei hun. Mae digon o le yma ar gyfer cynulleidfa o 300, ond ar ôl i gynulleidfa Graeanfryn a nifer o aelodau Bryn’rodyn symud yma, ynghyd â rhai o Horeb a Bontnewydd, roedd cyfanswm o 82 o aelodau cyflawn, a 39 o blant. Roedd 113 ar lyfrau’r ysgol Sul. Ond yr oedd dyled o £500 yn aros ar yr adeilad. Denwyd nifer gan ei fod mewn man cyfleus, ac eraill oherwydd harddwch yr adeilad: “quite an ornament in the village” oedd dyfarniad y Caernarfon and Denbigh Herald. Byddai rhywun yn disgwyl gweld sôn am y capel newydd yn y Goleuad neu’r Drysorfa ond ni cheir yr un gair amdano - hynny, ym marn un sylwebydd wedyn, oherwydd cenfigen a’r ffaith yr ystyriwyd Glan-rhyd fel “capel y bobl fawr”. Efallai bod hynny’n wir i raddau. Yn adroddiad Casgliad yr Ugeinfed Ganrif, enwir 39 o aelodau Glan-rhyd a gyfrannodd. Yn y rhestr honno gwelir enwau ffermwyr sylweddol, preswylwyr tai sylweddol a rhai oedd yn byw yn rhesdai newydd Glan-rhyd a Llanwnda - a chyfrannodd Glan-rhyd fwy nag odid un o gapeli eraill y cylch.

Un diffyg mawr yn yr adeilad oedd cyfrwng gwresogi, ac ym 1907 galwyd am dendrau i godi “heating chamber”, a nodwyd bod y planiau i’w gweld yn y tŷ capel. Gan nad oes tŷ ynghlwm wrth yr adeilad, rhaid mai un o dai Glan-rhyd a ddefnyddid fel tŷ capel. Roedd y Cyfarfod Misol i’w gynnal yng Nglan-rhyd am y tro cyntaf fis Mehefin 1908 - tybed a oedd ‘na ofn y byddai’r Saint yn oer!

Fel yn hanes Capel Pen-y-graig, Llanfaglan (MC), gadawodd Thomas Williams ddyled i’r capel ei dalu. Roedd ei weddw’n weithgar iawn yn ceisio hel cyfraniadau am flynyddoedd – nid oedd yn help efallai fod pawb yn gwybod bod ganddi ddigon o bres i dalu’r gweddill ei hun. Erbyn 1916 pan aed ati i glirio’r ddyled, roedd £500 yn dal ar ôl allan o’r gost derfynol o £2800,

Yn anffodus, nid yw cofnodion cynnar y capel ar gael yn y mannau arferol er mwyn gweld hanes cyflawn gweithgareddau’r blynyddoedd cynnar, ond cawn ambell i gip yn y papurau newydd sydd yn dangos eglwys weithgar. Roedd Mr a Mrs R. Gwyneddon Davies, Graeanfryn, ymysg yr arweinwyr, a threfnodd Mrs Davies bartïon gweu i wneud dillad i’r milwyr yn ystod y rhyfel byd cyntaf. Tua’r un adeg, cynhaliwyd perfformiadau blynyddol gan Gôr Glan-rhyd dan faton J.E. Williams, Swyddfa Bost Llanwnda. Perfformiwyd y cantata “Bugeiliaid Bethlehem” fis Mawrth 1917 - er mai braidd yn hwyr oedd hi ar gyfer y darn penodol hwnnw!

Yn nes ymlaen yn y ganrif, ffurfiwyd cymdeithas lenyddol y capel ac erbyn y 1950au, roedd yna gydbwyllgor rhwng y gymdeithas lenyddol honno a chymdeithasau tebyg ym Mryn’rodyn a Wesleaid Tŷ’n Lôn er mwyn cynnal eisteddfod flynyddol rhwng y tri lle.

O ran gweinidogion,. David Williams oedd y cyntaf, gan symud yma o Fryn’rodyn. Fo a wasanaethodd o’r cychwyn ym 1899 hyd ei farwolaeth ym 1920. Wedi hynny, rhannwyd gweinidog gyda’r fam eglwys, sef Bryn’rodyn. Y Parch Wyn Williams oedd y cyntaf, ym 1925. Bu farw ym 1936. Bu cyfnod di-weinidog wedyn tan 1941, pan ddaeth J.R. Richards yma, ac ar ei ôl o, y Parch. Owen Lloyd, o 1956 hyd ei ymddeoliad ym 1983. Rydym i gyd, mae’n debyg yn ei gofio fo, y Parch Huw Gwynfa Roberts, Jim Clarke, Deian Evans, ac yn olaf, y Parch Gwenda Richards.

Ymysg y blaenoriaid, bron i 40 ohonynt dros y ganrif a chwarter diwethaf, rhaid nodi Thomas Williams, William Griffith (Maengwyn), William Jones (Bodaden) a Jethro Jones (Tai Glan-rhyd) fel y rhai cyntaf. Daeth yr enw o “Gapel y Bobl Fawr” yn gynyddol anaddas - roedd y rhan fwyaf dros y cyfnod yn weithwyr neu’n amaethwyr. Efallai'r pedwar mwyaf nodedig oherwydd hyd eu gwasanaeth oedd Hugh Williams, Garth y Gro, a fu’n flaenor am 35 mlynedd o 1904; Hugh Jones, Glanrhyd Isaf 37 mlynedd hyd 1967; Mr ab Iorwerth, 30 mlynedd, Mr Lee, 37 mlynedd a Brian Jones, Glennydd dros 40 mlynedd hyd ei farwolaeth.

Dylid nodi Miss Edwards, Coetmor, fu’n gyfeilydd am 63 o flynyddoedd yma – ac yng nghapel Wesle Tŷ’n Lôn yr un pryd. A rhaid sôn am un teulu fu’n gwasanaethu am gan mlynedd, sef y tad a’r mab, y ddau flaenor T.R. Thomas; Mrs Doris Thomas y gyfeilyddes am tua 70 o flynyddoedd a Maldwyn Thomas mab, a draddododd y ddarlith ganmlwyddiant.

Mae'r capel yn dal ar agor, gyda 76 o aelodau, sef ond chwech yn llai na'r nifer o aelodau ar y cychwyn.

Cyfeiriadau

  1. Adroddiad papur newydd o 1898 yn adrodd hanes yr adeiladu.
  2. Hobley, W. Hanes Methodistiaeth Arfon, Dosbarth Clynnog (Cyfarfod Misol Arfon, 1921) tt. 346-347