Tan-y-cefn
Mae Tan-y-cefn yn rhes o dai bychain ym mhentref Llanwnda. Yn wir, dyna oedd enw'r dreflan a godwyd lle croesai hen drac Rheilffordd Nantlle y lôn fawr o Gaernarfon i Bwllheli. Roedd arhosfan ar y rheilffordd honno gerllaw, a elwid yn Pwllheli Road, enw a newidwyd i "Llanwnda" gan olynydd Rheilffordd Nantlle, sef Rheilffordd Llundain a'r Gogledd Orllewin (LNWR) - er bod Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda ger yr orsaf nesaf, Gorsaf reilffordd Dinas. Tyfodd pentrefan ehangach o gwmpas yr orsaf, ac yn fuan daeth yr enw Llanwnda'n fwy cyfarwydd fel enw'r casgliad o dai. Bellach, mae "Tan-cefn" yn enw ar y rhes o dai gwreiddiol yn unig.
Agowyd ysgol Sul mewn tŷ crydd yn y dreflan tua 1867, a arweiniodd at godi ysgoldy, sef Ysgoldy Graeanfryn (MC) lle cynhelid ysgol Sul a phregeth bob pnawn Sul tan 1899 pan agorwyd Capel Glan-rhyd (MC), Llanwnda[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Gwybodaeth bersonol, a chyfeiriadau yn Y Goleuad, 20.8.1872, t.7, lle cyfeirir at Tan-y-cefn fel "pentref bychan"; W. Hobley, ‘’Hanes Methodistiaeth Arfon’’, Cyf. I (Caernarfon, 1910), t.346