Capel Bwlan (MC), Llandwrog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Capel y Methodistiaid Calfinaidd ar gyrion pentref Llandwrog yw Capel Bwlan.

Adeiladwyd y capel o gwmpas 1815 a chostiodd £400 i'w sefydlu. Cafodd ei ail-adeiladu tua 1841[1]. Mae'r capel yn adnabyddus am y cymanfaoedd canu a gynhelid yno flynyddoedd lawer yn ôl[2]. Cafodd gwaith ei gomisiynu'n ddiweddarach i adeiladu estyniadau megis galeri, ystabl ac ysgoldy[3].

Dywedir fod y capel lle mae gan nad oedd Ystad Glynllifon yn fodlon rhoi tir i godi capel a oedd o fewn golwg y pentref a'r eglwys a dyna, meddid, pam nad yw'r capel yn fwy cyfleus ar gyfer pobl Llandwrog - er rhaid cyfaddef ei fod yn ganolog ar gyfer holl ffermydd gwaelodion plwyf Llandwrog ac ar gyrion pentrefan Groeslon Ffrwd a oedd, o bosibl, yn fwy pwysig gant a hanner o flynyddoedd yn ôl.

Cangen o Gapel Bwlan oedd Capel bach y Morfa.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

[[Categori:Capeli]