Rheilffordd Tal-y-sarn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:00, 15 Ionawr 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Rheilffordd Tal-y-sarn oedd yr enw crand a roddwyd ar y dramffordd a ddefnyddid rhwng 1864 ac 1881 i gludo llechi o Chwarel y Fron trwy pentref Y Fron , ac hyd ochr ogleddol Chwarel Cilgwyn, ac wedyn ar hyd inclein trwy ganol Chwarel Tal-y-sarn i gyrraedd traciau Rheilffordd Nantlle yng ngwaelod Dyffryn Nantlle. Mae'n debyg mae traciau lled cymysg, sef 2' a 3'6", oedd ar ran o'r system. Roedd y lein wedi codi ar dir a brydleswyd gan y Goron i gwmni Robinson a Tuxford, a hynny am 30 mlynedd. Y bwriad oedd ymestyn y lein i Gaernarfon yr holl ffordd o'r Fron ond ni wireddwyd y cynlluniau uchelgeisiol hyn

Fe'i caewyd ym 1881, gan fod cyfle newydd a gwell wedi codi, sef anfon y llechi ar hyd Cangen Bryngwyn o'r Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru. Agorwyd dolen i'r system honno ar drac lled 2' yn unig ym 1882, system a elwid yn Dramffordd y Fron.[1]

Cyfeiriadau

  1. J.I.C. Boyd, ‘’Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire’’, Cyf. 1 (West) (Oakwood, 1981), t.236