Pen-y-groes (Llanwnda)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:33, 1 Ionawr 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Daliwch eich gwynt! Mae awdur cychwynnol yr erthygl hon yn dal wrthi, a heb ei gorffen eto!

Enw ar dyddyn ac efaill oedd Pen-y-groes, plwyf Llanwnda. Roedd y tŷ'n dyddio'n ôl i'r 17g ac yn enghraifft o fwthyn wedi ei adeiladu o gerrig amrwd ar seiliau o gerrig mwy, a ffenestri bychain. Roedd ysgol yn hytrach na grisiau'n fodd i gyrraedd yr ail lawr. Roedd paredau coed a phlaster yn gwahanu'r ystafelloedd ac roedd y llawr yn bennaf yn llawr pridd. Erbyn canol yr 20g roedd y tŷ mewn cyflwr gwael iawn ac yn troi'n ddim mwy na furddun, er iddo gael ei enwi ar fap Ordnans 1953.[1] a chwalwyd yr hyn oedd ar ôl cyn codi tŷ newydd (Yr Hen Efail) sydd yn gartref i Dafydd Wigley a'i deulu.

Mae'n debyg i'r enw fod yn hen iawn ac yn cofnodi bodolaeth hen groesffordd ddiflanedig ar y lôn o Gaernarfon i Bwllheli, a hynny cyn i'r dyrpeg newid trefn y ffyrdd. Erbyn heddiw, mae'r safle hanner ffordd rhwng cyffordd y lôn i bentrefan Dinas a'r gyffordd le mae ffordd Rhostryfan yn gadael y lôn bost.

Ymddengys fod dau deulu yn byw ym Mhen-y-groes tua diwedd y 19g., un yn ffermio a'r llall yn cadw gefail, gan fod gof yn byw ac yn gweithio yno - a hynny mor ddiweddar â 1911, pan oedd John Francis Roberts (ganwyd tua 1876) yno ac yn gweithio fel y gof. Roedd ei dad, Griffith Roberts (g.1839) yn gweithio fel gof o'i flaen gyda'r tulu'n byw yn yr efail.

Ym 1842, roedd yr eiddo yn perthyn i John Rowlands, a thenant y fferm oedd John Roberts, a oedd yn ffermio saith cae yn ymestyn dros ychydig mwy na naw erw.[2] Gwraig John Roberts oedd Anne Roberts a hanai o Fangor. Roedd hi'n dal yn fyw ym 1881.[3]

Cyfeiriadau

  1. Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’, Cyf.2: Central (Llundain, 1960), t.223
  2. Map a rhestr bennu'r Degwm, plwyf Llanwnda
  3. Cyfrifiad plwyf Llanwnda, 1881