Cymdeithas Rheilffordd Eryri
Mae Cymdeithas Rheilffordd Eryri yn gymdeithas ar gyfer y rhai sydd yn cefnogi'r rhan honno o Reilffordd Ffestiniog ac Eryri sydd wedi ei hailadeiladu o Gaernarfon i Borthmadog. Nod y gymdeithas yw codi arian a hyrwyddo gwirfoddoli ar Reilffordd Eryri. Mae'r gangen leol o'r gymdeithas yn cwrdd yn fisol yng Nghlwb Mountain Rangers yn Rhosgadfan.