Clwb Mountain Rangers

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Sefydlwyd Clwb Pêl-droed Mountain Rangers ym 1920 yn Rhosgadfan. Dyma oedd prif glwb pêl-droed yr ardal, er bod yna dimau eraill megis Fron Celts, Carmel Locals, Cesarea Rovers a Tryfan United yn y cylch. Diddorol yw sylwi ar yr awch am enwau Saesneg!

Roedd y clwb yn bur lewyrchus yng nghynghrair Gwynedd, gan ennill Cwpan Alves yn y 1970au, a'r cynghrair yn yr 1980au. Yr oedd gan y clwb nifer o dimau ar gyfer yr ieuenctid hefyd. Roedd y cae chwarae y drws nesaf i gartref Kate Roberts, sef Cae'r Gors. Codwyd clubhouse newydd yn y 1980au a gwella'r cae ond erbyn 2012 roedd y clwb yn dirywio ac yn gorfod tynnu allan o'r uwch-gynghrair lleol. Er i'r sefydliad barhau trwy weithredu fel canolfan gymdeithasol - wedi i Neuadd Rhosgadfan losgi i'r llawr - ac fel tafarn, ni fu chwarae am rai blynyddoedd. Yn 2018 ail-ffurfiwyd y clwb (dan gadeiryddiaeth Martin Jones) a bellach mae'r clwb yn chwarae unwaith eto, ac yn magu criw o chwaraewyr ifanc y fro.[1] Erbyn hyn, Alex Philp yw'r rheolwr, ac yn 2020 daeth y clwb yn ail yng nghystadleuaeth Cynghrair Môn. Erbyn tymor 2021-2 roedd y tîm wedi ennill dyrchafiad i Adran 1 Arfordir Gogledd Cymru (Gorllewin).[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Daily Post, 14.4.2018
  2. Gwefan AFE Football News, [1], cyrchwyd 20.6.2022