Pwyllgor y Di-waith Dyffryn Nantlle
Sefydlwyd Pwyllgor y Di-waith Dyffryn Nantlle ym 1956 yn wyneb y diweithdra dybryd yn Sir Gaernarfon wedi cyfnod yr Ail Ryfel Byd, ac yn Nyffryn Nantlle yn arbennig. Erbyn 1957, roedd dau gant a hanner o’r boblogaeth yn ddi-waith. Roedd ffatri Dennis Ferranti, a arferai gyflogi tua 200, wedi gostwng nifer y gweithlu nes bod ond pump ar hugain ar ôl. Roedd y chwareli hefyd yn cau neu’n lleihau nifer eu gweithwyr, gyda rhyw 250 yn gweithio ynddynt erbyn hynny, lle gynt yr oedd 1300 o swyddi ar gael. Roedd y dynion ifanc bron i gyd yn gadael i chwilio am waith. Beth a wnaeth y sefyllfa’n fwy torcalonnus oedd y ffaith fod Prydain yn gyffredinol yn ffynnu.
Ffurfiwyd pwyllgor i gydgordio ymgyrch i sicrhau gwaith i’r dyffryn. Er i’r mudiad honni ei fod yn amhleidiol, y Blaid Lafur a arweiniai’r gweithgareddau, gyda chefnogaeth yr Undebwr amlwg Tom Jones (Shotton) a’r aelod seneddol lleol, Goronwy Roberts.
Aeth sefyllfa cyflogaeth o ddrwg i waeth yn ystod 1957, gyda llai o chwarelwyr yn gweithio a ffatri Ferranti’n cau, er iddi gael ei sefydlu gydag arian y llywodraeth. Er bod yna addewidion am waith newydd, a chwmni Austin Hopkinson yn agor ffatri ym Mhen-y-groes, ystyriwyd nad oedd y sefyllfa ddim gwell ac aed ati i drefnu rali yng Nghaernarfon.
Er bod y Gweinidog dros Faterion Cymreig, Henry Brooke, wedi ymweld yn ystod 1957 i weld drosto’i hun beth oedd y sefyllfa, ddaeth dim byd o’r ymweliad. Naw mis yn ddiweddarach, cafwyd dirprwyaeth arall, y tro hwn yn cynnwys y Gweinidog Cymreig newydd D.V.P. Lewis, a dau was sifil uchel, wedi i’r Pwyllgor bwyso am hynny. Cafwyd cefnogaeth y gweinidog y tro hwn, a gwelwyd hynny fel llwyddiant i’r mudiad.
Aeth y trefniadau rhagddynt ar gyfer rali, a gynhaliwyd ym Mhafiliwn Caernarfon fis Chwefror 1958, wedi i dros 300 ymdeithio o Ddyffryn Nantlle y tu ôl i Seindorf Arian Trefor. Cafwyd sylw gan y cyfryngau ar lefel Brydeinig. Anerchwyd y dorf gan nifer o unigolion blaenllaw megis Cadeirydd y Cyngor Sir ac Esgob Bangor, a’r aelodau seneddol Peter Thomas a Goronwy Roberts. Llywydd y cyfarfod oedd cadeirydd pwyllgor y mudiad, Hugh Jones.
Yr un mis, trefnwyd dirprwyaeth i archwiliad cyhoeddus i’r cynnig i adeiladu atomfa yn Nhrawsfynydd, er mwyn dangos cefnogaeth i’r cyfle hwn am swyddi newydd. Cymerwyd rhan mewn rhaglen deledu Granada ym Manceinion. Ond yn fwyaf arwyddocaol, heb os, oedd dirprwyaeth a aeth i Lundain i gwrdd â Llywydd y Bwrdd Masnach, Syr David Eccles. Aelodau’r ddirprwyaeth oedd Hugh Jones (cadeirydd y Pwyllgor), John Llywelyn Roberts (ysgrifennydd), O. Wyn Roberts (trysorydd), Thomas Edwards (is-ysgrifennydd), Owen Humphreys a Bleddyn Davies.
Parhau, os ar lefel lai amlwg, a wnaeth y pwyllgor am ychydig, ond aeth pethau’n dawel iawn ym 1959. Un o'r prif lwyddiannau y gellid ei briodoli'n rhannol oherwydd pwysau’r pwyllgor oedd agor gwaith graean newydd, sef Chwarel Cefn Graeanog. Erbyn diwedd 1959, fodd bynnag, roedd y Mudiad wedi medru trefnu ymweliad yr Arglwydd Aberhonddu, y Gweinidog newydd dros Faterion Cymreig, ddechrau Ionawr 1960. Trefnwyd cynhadledd, lle daeth yn amlwg bod yna deimlad cyffredinol y dylid ehangu’r gweithgareddau i gynnwys gweddill i sir. Boed hynny fel y bo, rhwng bod rhai o’r pwyllgor wedi derbyn gwaith a sawl siomedigaeth (er enghraifft penderfyniad i beidio â chodi ffatri cemegolion ar dir Glynllifon) fe gollodd y mudiad unrhyw fomentwm oedd ar ôl.
Yn sicr, cafwyd rhai llwyddiannau na fyddid yn disgwyl i fudiad lleol eu cael ond roedd y pwysau ar ychydig o unigolion yn feichus. Lleihaodd yr angen am waith hefyd wrth i Ffatri Ferodo a phrosiectau adeiladu atomfeydd yn Nhrawsfynydd a’r Wylfa gychwyn. Daeth y Mudiad i ben ym 1960.
Mae holl hanes y Pwyllgor i’w gael yn erthygl Gwyn Edwards yn y cylchgrawn Llafur, sydd ar gael ar y we.[1]