Afon Gwyrfai
Un o'r prif afonydd sy'n rhedeg drwy ardal Uwchgwyrfai yw Afon Gwyrfai. Mae'n ffurfio ffin ogledd-ddwyreiniol i'r cwmwd.
Awgrymodd y diweddar Athro Melville Richards fod yr enw "Gwyrfai" yn cynnwys dwy elfen, sef gŵyr a bai, y ddau air wedi arfer golygu rhywbeth yn debyg i dro. Mae hwn yn enw addas ar yr afon felly, gan ei bod yn troellu lawer gwaith cyn cyrraedd y môr, a hynny heb yr un darn syth.[1]
Credir i'r afon darddu o Lyn y Gader ger Drws-y-Coed, ac mae'n rhedeg i lawr drwy ran enfawr o Eryri ac yn llifo i'r môr yn y Foryd ger Llanfaglan.[2]. Ar hen fapiau, gelwir yr afon uwchben Llyn Cwellyn yn Afon Cwellyn,[3] a cheir cyfeiriadau at yr afon yn uwch i fyny, lle mae'n llifo o dan Bont Rhyd-ddu, fel Afon Llyn-y-gadair.[4]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Melville Richards, Enwau Tit a Gwlad, (Caernarfon, 1998), t.23
- ↑ Erthygl am y lle hwn ar Wicipedia
- ↑ Archifdy Caernarfon, XPlansB/76
- ↑ Archifdy Caernarfon, XPlansB/153