Afon Wen (Clynnog Fawr)
Mae Afon Wen, sydd yn codi yn ucheldir plwyf Clynnog Fawr, yn llifo tua'r de. Mae un gangen yn codi yn y corsydd i'r gorllewin o dreflan Bwlch Derwin tra bod cangen arall yn llifo heibio i Mynachdy Gwyn ac wedyn ar draws plwyfi Llangybi a Llanystumdwy, nes cyrraedd y môr i'r de o bentref Chwilog gyda'i haber gerllaw safle hen orsaf reilffordd Afon Wen. Yr hen enw yn y Canol Oesoedd, mae'n ymddangos o siartrau Aberconwy, oedd Afon Carrog - ac yn rhyfedd iawn, mae Afon Wen arall yn Uwchgwyrfai sydd yn llifo i mewn i Afon Carrog arall.