Afon Wen (Llandwrog)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Afon Wen yw enw'r afon fechan sydd yn codi yn y corsydd gerllaw Cae Haidd ger Capel-y-bryn ac yn llifo ar draws y caeau nes uno ag Afon Carrog ychydig i'r dwyrain o fferm Traean yn y Dolydd. Arferai gyflenwi cronfa ddŵr Ffynnon Wen a godwyd i gyflenwi'r ardal gyda dŵr yn nechrau'r 20g.[1] Mewn mannau eraill gelwir yr afon fach hon yn Afon Ffynnon Wen.[2]

Ni ddylid ei chymysgu gyda'r Afon Wen sydd yn rhedeg o ardal Bwlch Derwin i gyfeiriad y de heibio i Chwilog.

Cyfeiriadau

  1. Traethawd ar Reilffordd Gul i'r Bryngwyn, gan John Hughes, Llain Fadyn; mewn dwylo preifat
  2. Hanes achos llys mewn papur newydd am hawliau dŵr, rhwng Ffatri Tryfan a Hafod Ifan