Ffynnon Beuno (Llanwnda)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:13, 31 Mawrth 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ffynnon nad oes fawr o sôn amdani erbyn hyn yw Ffynnon Beuno ym mhlwyf Llanwnda. Ni ddylid ei chymysgu gyda'r Ffynnon Beuno arall yn Uwchgwyrfai, sef yr un ar ochr y lôn ger Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr.

Mae Ffynnon Beuno, Llanwnda, yn ucheldir y plwyf, nid nepell o'r man lle saif Gorsaf reilffordd Cyffordd Tryfan, ar dir Gwredog. Mae mewn cae o dan fferm yr Erw, ar y llaw dde i'r ffordd yn fuan ar ôl croesi hen drac y rheilffordd sydd bellach yn llwybr troed. Nid oes dim adeiladwaith o unrhyw fath o gwmpas y ffynnon hon, sy'n dod o'r ddaear ar lethr raeanog dan stwmpyn coeden sydd wedi syrthio. Mae'r ffynnon mewn cae o'r enw Cae Ffynnon Beuno, sydd yn cael ei enwi felly ar fap degwm y plwyf, 1840.

Mae hanes i Sant Beuno ymweld â mab Sant Cadfan, Cadwallon ap Cadfan. Rhoddodd hwnnw ddarn o dir a elwid yn Waredog (Gwredog) i Beuno. Er i Beuno fynd ati i gychwyn ar y gwaith, medd yr hen chwedl, o adeiladu ei eglwys yma, cafwyd dadl ynglŷn â gwir berchnogaeth y tir, a chafodd Beuno dir amgen yng Nghlynnog Fawr gan y Tywysog. Arhosai eglwys Llanwnda yn gapel o dan Clynnog Fawr, ac mae hen ffynonellau'n nodi ei bod wedi ei chysegru i Beuno cyn iddi gael ei chysegru'r ail dro i Sant Gwyndaf.[1]

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Well Hopper [1]