Gwredog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Gwredog yn cael ei enwi’n gynnar iawn oherwydd yr hanes (neu’r chwedl) am Cadwallon ap Cadfan, mab Cadfan Sant, yn rhoi tir Gwredog i Beuno Sant. Cododd dadl ynglŷn â hawl Cadwallon i’r tir, a symudodd Beuno ei eglwys i Glynnog. Ar dir Gwredog y mae Ffynnon Beuno. Saif tir Gwredog ar lan ddeheuol Afon Gwyrfai tua milltir a hanner o bentref Y Bontnewydd.

Mae tir Gwredog wedi ei rannu rhwng Gwredog Uchaf, Gwredog Isaf, Tan’rallt (neu Gwredog Tan’rallt) a Gwredog Bach erbyn hyn, ac mae’n debyg y digwyddodd hynny fesul tipyn ar ôl i Ystad Lleuar ddod yn berchnogion yr eiddo yn y 16g. Wedi hynny, bu'r ffermydd hyn yn rhan o Ystad Plas-yn-Bont ac wedyn yn eiddo i Ystad y Faenol.<Gweler yr erthyglau yng Nghof y Cwmwd ar yr ystadau hynny</ref>

Cafodd John Evans, a elwir fel rheol yn “John Evans, Waunfawr”, ei eni yng Ngwredog Uchaf ym 1770. Daeth yn enwog oherwydd ei waith ymysg pobl frodorol America, sef llwyth y Mandaniaid, ac fel mapiwr eu tiriogaeth.[1] Mab i deulu arall o’r Gwredog oedd Owen Jones a ddarganfu lechi yn Slatington, Pensylfania tua 1845. .[2]

Ym 1841, ceid pedwar teulu’n byw yn nhai Gwredog: John Thomas, ffermwr 65 oed a’i deulu yng Ngwredog Tan’rallt; Thomas Owens, ffermwr 60 oed a’i blant yng Ngwredog Uchaf; John Davies, gwas fferm 40 oed a’i deulu hefyd yng Ngwredog Uchaf; Hugh Owens, ffermwr 69 oed a’i deulu yng Ngwredog Isaf; a William Lewis,75 oed, a’i ddau blentyn yng Ngwredog Bach. Ymhen 10 mlynedd, roedd gweddw John Thomas, Gwen, 64 oed, ei phlant a dau was yn byw yng Ngwredog Tan’rallt; Griffith Jones, 50 oed a’i deulu a Richard Owen (oedd yn chwarelwr) a’i deulu yntau yn byw mewn dau dŷ yng Ngwredog Uchaf; Thomas Williams, 44 oed, ei deulu a phedwar o weision yn byw yng Ngwredog Isaf; a Lewis Williams (mab William Lewis), 49 oed a’i wraig yng Ngwredog Bach. Mae’r cyfrifiad yn nodi maint y ffermydd hyn: Gwredog Tan’rallt yn 50 erw; Gwredog Uchaf yn 32 erw; Gwredog Isaf yn 100 erw; a Gwredog Bach yn 47 erw. Thomas Assheton Smith o’r Faenol oedd perchennog y ffermydd hyn, heblaw Gwaredog Bach, a oedd yn eiddo i Henry Rumsey Williams.[3]

Mae'n hysbys bod Gwredog Bach wedi ei gwerthu gan ystad Rumsey Williams ym 1871, a gwerthwyd Gwredog Uchaf gan Ystad y Faenol ym 1919.

Roedd Gwredog Isaf yn gartref i Gwilym Prichard a Claudia Williams, yr arlunwyr enwog, o 1980 hyd 1984 pan symudodd y cwpl i wlad Groeg, ac wedyn i Lydaw. Mae nifer o luniau o Gwredog Bach wedi'u paentio gan Gwilym Prichard yn y Llyfrgell Genedlaethol.[4]

Mae tarddiad yr enw Gwredog yn ansicr. Mewn dogfen o 1646-7 (Casgliad Baron Hill, Prifysgol Bangor), Gweredog ucha / Gweredog issa a geir. Gwelir mai'r ffurf Gweredog a geir yno yn hytrach na'r Gwredog a geir yn yr enwau modern. Mewn llawer o'r ffynonellau gwelir yr -e- ymwthiol yn datblygu rhwng yr -w- a'r -r- yn Gwredog, ac ambell dro ceir -a- yn hytrach nag -e-. Gwaredog bach / Gwaredog isaf / Gwaredog uchaf sydd yn Rhestr Pennu Degwm 1839. Mae'n anodd iawn penderfynu ai gwaredog ynteu gweredog oedd y ffurf gysefin, ac nid yw ystyr yr enw'n glir o gwbl. Mae'n bosib ei fod yn cyfeirio at rywle a oedd ar lethr - yn yr ystyr 'rhedeg i lawr / ar i waered'.[5]

Cyfeiriadau

  1. Bob Owen, Yr ymfudo o Sir Gaernarfon i’r Unol Daleithiau (I), (Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, Cyf. 13 (1952)), t. 46
  2. Bob Owen, Yr ymfudo o Sir Gaernarfon i’r Unol Daleithiau, (Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon (II), Cyf. 14 (1953)), t. 58
  3. Map Degwm plwyf Llanwnda, 1841
  4. Gwefan Robert Meyrick [1] cyrchwyd 4.12.2023
  5. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011),tt.180-1.