Michael Vaughan Wynn, 7fed Arglwydd Newborough
Roedd Robert Charles Michael Vaughan Wynn (1917-1998) yn 7fed Arglwydd Newborough. Fe arddelai'r enw "Michael" - neu i'w ffrindiau, "Micky Wynn". Roedd yn fab i Robert Vaughan Wynn, 6ed Arglwydd Newborough. Ymunodd â'r fyddin yn syth o'r ysgol (Coleg Oundle) ond cafodd ei ryddhau oherwydd anaf ym 1940. Fodd bynnag, cynorthwyodd i achub milwyr o Dunkirk ym 1940, gan ei fod wedi cael gwaith fel dinesydd cyffredin yn gapten iot a weithredai fel cwch ar gyfer gwasanaeth achub-o'r-môr y llynges. Cafodd ei gomisiynu'n is-lefftenant yn y Llu Morwrol Wrth Gefn (RNVR), a chael swyddogaeth fel capten cwch modur tanio torpedos. Yn y swyddogaeth honno, bu'n allweddol i lwyddiant yr ymosodiad ar harbwr yr Almaenwyr yn St. Nazaire, lle cafodd ei gydnabod gyda medal y DSC. Fodd bynnag, fe suddwyd ei gwch a chollodd un llygad yn yr ymrafael; cafodd ei ddal gan yr Almaenwyr a'i anfon i garchar rhyfel. Fe ddihangodd ond, wedi iddo gael ei ddal drachefn, fe'i hanfonwyd i garchar Castell Colditz, o ble cafodd ei drosglwyddo'n ôl i Brydain gan yr Almaenwyr ym 1945, wedi iddo ffugio salwch difrifol.
Fe briododd Rosamund Barbour o Gastell Bolesworth, Swydd Gaer ym 1945, a hi oedd mam ei dri phlentyn. Ysgarodd y ddau ym 1971, a'r un flwyddyn fe briododd Jennifer Acland Allen.[1]
Wedi'r rhyfel trodd at ffermio, ac etifeddodd y teitl Arglwydd Newborough ar farwolaeth ei dad ym 1965, ynghyd â'i ystadau, gan fyw yn bennaf yn y Rhug ger Corwen - erbyn hynny roedd Plas Glynllifon wedi ei hen werthu. Wedi iddo werthu Plas Boduan, hen gartref y Wynniaid a fu'n ail gartref iddo, ym 1967, arferai aros yng Nghaer Belan wrth ymweld â'i ystâd yn Sir Gaernarfon. Roedd y magnelau a roddwyd yno i wrthsefyll ymosodiad gan y Ffrancwyr ar ddechrau'r 19g. - ymosodiad na ddigwyddodd - yn dal yn y fan honno. I brofi eu bod yn dal i weithio, arferai eu tanio weithiau. Ym 1976, saethodd belen fagnel ar draws y dŵr yn Abermenai, gan ddifrodi hwyl iot oedd yn digwydd mynd heibio, a rhoi braw i bobl ar y traeth dros y dŵr yn Sir Fôn. Arweiniodd hynny at achos yn ei erbyn yn Llys Ynadon Caernarfon o achosi difrod troseddol. Plediodd yn ddi-euog, ond cafodd yr ynadon ef yn euog. Dylai fod wedi gwybod yn well, ac yntau'n ynad heddwch ei hun![2]
Bu farw yn Istanbwl ym 1998, ac fe'i holynwyd gan ei unig fab Robert.[3] Yn ddigon addas, rywsut, ag ystyried ei gymeriad anturus a'i yrfa ryfeddol yn ystod y Rhyfel Byd, fe saethwyd ei lwch o fagnel ar Ystâd y Rhug wedi i'w gorff gael ei amlosgi.
Yn ystod ei gyfnod o fod yn berchennog Ystad Glynllifon, fe werthwyd llawer o dir, wrth i'r ffermydd ddod yn rhydd neu oherwydd nad oeddynt yn dod ag incwm digon sylweddol. Rhaid oedd iddo werthu ynys Enlli er mwyn codi arian i dalu trethi. Gwir yw dweud, mae'n debyg, nad oedd yn hoff gan bawb o'i denantiaid oherwydd ei agwedd at fusnes, gan fynnu, yn ôl yr hanes, mai'r ochr galed ariannol oedd uchaf bob tro wrth ymwneud â'i denantiaid. Iddo fo, fodd bynnag, mae'r diolch fod holl gyfoeth cofnodion yr ystâd wedi cyrraedd Archifdy Caernarfon, sydd yn rhoi darlun llawn o fywyd Uwchgwyrfai dros y tair canrif ddiwethaf - casgliad ymysg y goreuon yng Nghymru, a werthwyd gan ei fab i Gyngor Gwynedd (lle roedd y casgliad eisoes ar gael ar fenthyg) er mwyn codi arian i dalu treth farwolaeth.