Llongau Uwchgwyrfai

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:55, 11 Ionawr 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Nid oes llawer o hanes am longau a berthynai'n benodol i Uwchgwyrfai ond gellid sôn am y llongau a adeiladwyd o fewn ffiniau'r cwmwd, neu gerllaw, fel Llongau Uwchgwyrfai.

Mae David Thomas yn rhestru'r rhain yn ei lyfr ar longau'r sir.[1] Dyma nhw, ynghyd â'r mannau lle'u hadeiladwyd:

ABERMENAI

Speedwell, slŵp 10 tunnell a adeiladwyd ym 1789, ac a werthwyd yng Nghaer ym 1804

Y FORYD - ni ddywedir p'un ai ar ochr Uwchgwyrfai neu ym mhlwyf Llanfaglan yr oedd hyn

Ellen Glynne, smac 37 tunnell a adeiladwyd ym 1843 gan Thomas Edwards. Fe'i collwyd ger Saltney ym 1867

Laura Ann, smac 29 tunnell a adeiladwyd ym 1846 gan Thomas Edwards. Fe'i collwyd ym 1854

CLYNNOG FAWR

Nancy, slŵp 32 tunnell a adeiladwyd ym 1780, ac a gollwyd ym 1817

LLANAELHAEARN neu, yn gywirach, ar y lan yn Nhrefor

Arvon Lass, slŵp 20 tunnell a adeiladwyd ym 1854 gan Evan Thomas

Zion Hill, sgwner 93 tunnell a adeiladwyd gan Evan Thomas. Fe'i gwerthwyd yn Loch Garman (Wexford), 1891

Ion, brigantîn 230 tunnell a adeiladwyd gan H. Thomas yn ôl pob tebyg. Roedd ei pherchnogion yn Lerpwl. Fe'i gwerthwyd yn Norwy, 1884


Cyfeiriadau

  1. David Thomas, Llongau Sir Gaernarfon, (Caernarfon, 1952), t.206