Capel Garmon
Saif murddun a elwir yn Gapel Garmon tua chanllath i'r gorllewin o Ffynnon Garmon ar lethrau dwyreiniol Moel Smytho. Er i'r llecyn fod bellach ym mhlwyf Betws Garmon, arferai fod ym mhlwyf Llanwnda, ac eglwys Betws Garmon yn weddol agos yr ochr arall i ffin Uwchgwyrfai. Dichon bod hyn yn awgrymu i'r cysylltiad ag enw Sant Garmon fynd yn ôl i gyfnod cyn sefydlogi ffiniau'r plwyfi, a ddigwyddodd, medd rhai, yn ystod y 13g.
Er nad oes sicrwydd i'r adeilad fod â diben crefyddol iddo, mae'r enw traddodiadol a'r agosrwydd at ffynnon rinweddol, os nad sanctaidd, yn awgrymu defnydd o'r fath. Un drws yn unig sydd i'r adeilad, a'i hyd yw 23' a'i led 12.5'.[1] Roedd haneswyr eglwysi Eryri, Harold Hughes a H.L. North, yn ystyried yr adeilad yn gapel o ryw fath, a'i ddyddio i ddechrau'r 16g.[2] Mae aliniad ac ansawdd da y gwaith adeiladu'n tueddu i gefnogi barn Hughes a North, ond mae Comisiwn Henebion Cymru wedi dewis ei gategoreiddio fel 'adeilad seciwlar'. Nodir yn ei restr o adeiladau ei fod yn gorwedd ar aliniad Gorllewin - Dwyrain, ar blatfform wedi ei lefelu ar ochr y bryn, gyda waliau tua 3 tr. o drwch. Mae'r adeilad yn mesur 23 tr. wrth 12tr. 6 modfedd.[3]