Llewelyn Turner

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:21, 2 Ionawr 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ganwyd Syr Llewelyn Turner (1823-1903) yn y Parkia, cartref y teulu, yn fab i William Turner, Caernarfon a'i wraig Jane (Williams). Yr oedd yn flaenllaw ym mywyd cyhoeddus a dinesig tref Caernarfon, gan chwarae rhan flaenllaw adeg y colera yn y dref ym 1867 - gan fynnu clirio llawer o slymiau y dref . Sefydlodd y Royal Welsh Yacht Club. Bu'n is-gwnstabl castell Caernarfon a Bu'n weithjgar efo badau achub. Priododd ym 1878. Bu'n siryf Sir Gaernarfon, 1886-7. Bu farw 18 Medi 1903.[1]

Yr oedd yn un o hyrwyddwyr Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru ac yn gadeirydd cyntaf bwrdd y Cwmni.[2]

Masnachwr yng Nghaernarfon a ganolbwyntiodd ar y diwydiant llechi ydoedd, ond ei dad, William Turner, a wnaeth fwyaf i ddatblygu chwareli Dyffryn Nantlle. Ei brif gysylltiad ef â Uwchgwyrfai oedd ei ymwneud â rhai o gwmnïau'r chwareli, yn benodol Chwarel Brynfferam.

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur ar lein: erthygl ar William Turner, ei dad.
  2. Festipedia, erthygl am Llewelyn Turner, [1] cyrchwyd 2.1.2022