Capel Tal-y-sarn (MC)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:03, 21 Rhagfyr 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Addoldy Methodistaidd ym mhentref Tal-y-sarn oedd Capel Tal-y-sarn (MC).[1]. Gelwir yr adeilad presennol yn gyffredinol yn "Capel Mawr", gan ei fod yn cynnwys eisteddleoedd i 700. Erbyn hyn mae wedi cau, er yn dal i sefyll. Mae wedi cael ei restru'n raddfa 2 gan CADW oherwydd ei splendidly sumptuous interior.[2]

Agoriad a'r capel cyntaf

Agorwyd y capel ei hun ym mis Awst 1821. Hon oedd yr ail gangen i gael ei ffurfio allan o gapel Llanllyfni. Cyn adeiladu'r capel ei hun, cafwyd pregethu ar aelwyd Gelliffrydiau ac yn y Ffridd. Ar ôl peth trafferth, cafwyd tir y gellid adeiladu arno mewn llecyn braf o fewn golwg yr holl ddyffryn - er, ers cant a hanner o flynyddoedd bellach, mae'r safle dan domen rwbel anferth.

Erbyn 1826, roedd yr adeilad angen ei helaethu a gosodwyd llofft neu galeri yno. Aeth yr achos o nerth i nerth, gan ddenu rhai o lethrau Dyffryn Nantlle. Arferid cynnal gwasanaethau ar fore Sul mewn tai yma ac acw, gyda'r gynulleidfa'n dod at ei gilydd yn y capel bob nos Sul. Cryfhaodd yr achos, gyda chyfarfodydd dirwest llywyddiannus iawn yn cael eu cynnal, a sefydlwyd Cymdeithas y Rechabiaid yno ym 1841. Ym 1840, cafwyd diwygiad ymysg merched y capel.

Yr ail gapel

Teimlid fod rhaid codi capel mwy, a dewiswyd safle yn bellach i'r gorllewin ar ochr y dyffryn (yn groes i ddymuniadau'r aelodau oedd yn ffermio'n uwch i fyny'r dyffryn, ond y ddadl a orfu oedd honno o eiddo'r enwog John Jones, Tal-y-sarn a Hugh Jones, Coedmadog, sef bod y safle newydd ger chwarel Cloddfa'r Coed yn fwy diogel ac yn llai tebygol o gael ei gladdu gan domenydd rwbel. Dyma safle'r capel hyd heddiw (er bod capel newydd eto wedi ei godi ar y safle -gweler isod). Fe'i hagorwyd 23 Mehefin 1852 ar gost o £700, gyda lle i 350 eistedd. Maint y capel oedd 42' wrth 42'.

Noda William Hobley fod cyfarfod cystadleuol wedi ei gynnal yn yr ardal ar y pryd, gyda'r capel newydd yn destun englyn ynddo. Teimlai'r beirniad, Eben Fardd, nad oedd neb yn deilwng o'r wobr, ond ymysg y goreuon caed y canlynol:

Wele ein capel newydd - hylaw
Helaeth a chelfydd.
Tŷ mawl i'r Oen, Teml rydd
Dwyfol feddyg Tŷ Dafydd."
William Hughes, Tŷn y werglodd
Ystafell hwylus a helaeth – a ennyn
a chynnal ddysgeidiaeth,
A lle'r addoli ddaeth
Digon i'r holl gymdogaeth."
William Owen, Hafodlas

Yn ystod y 1850au a'r 1860au, er gwaethaf creu nifer o ganghennau a aeth yn eglwysi annibynnol o'r Capel Mawr, tyfodd yr aelodaeth o 168 ym 1854 i 284 ym 1860, wedi Diwygiad 1859. Bu peth lleihad oherwydd y canghennau newydd yn ystod yr 1860au, ond roedd yr aelodaeth yn parhau i fod yn 220 erbyn 1868.

Canghennau

Erbyn 1837, roedd digon o aelodau o ardal Y Fron i gychwyn cangen-eglwys, gyda'r enw Cesarea, ac aeth 12 o aelodau Capel Tal-y-sarn yno. Gwnaed yr un peth yn y Cilgwyn trwy sefydlu ysgol yno mewn tŷ, ac adroddir am yr ysgol Sul yno yn y Llyfrau Gleision ym 1847 - er i Hobley awgrymu mai 1849 oedd dyddiad sefydlu'r ysgol.[3] Yn y man aeth Capel Cilgwyn (A) yn gapel i'r Annibynwyr. Ym 1857, sefydlwyd cangen fel ysgol Sul, Baladeulyn yn y pentref a elwir heddiw yn Nantlle, ac ym 1862 aeth Baladeulyn yn achos ar wahân. Ym 1863, ffurfiwyd cangen-ysgol yn Nhan'rallt, ac fe agorodd Capel Tan'rallt (MC) fel eglwys ar wahân ym 1882, pan aeth 43 o aelodau'r Capel Mawr yn aelodau Tan'rallt.

Yr oedd y canghennau hyn ar gyrion dalgylch y Capel Mawr, ac roedd yn gwneud pob synnwyr i'r pentrefi gwahanol gael eu capeli eu hunain gan gymaint oedd y galw. Teimlid, fodd bynnag, fod angen capel arall yn nes at ben Pen-y-groes i'r pentref, ac fe sefydlwyd cangen-eglwys yng nghapel newydd Hyfrydle.

Ym 1873, sefydlwyd ysgol Sul i blant tlawd mewn ystafell yng Nghefncoed, ac roedd tua 30 o blant yn ei mynychu.

Ysgol ddyddiol y capel

Roedd goruwchystafell yn y capel ar gyfer cyfarfodydd, ac yno fe gynhaliwyd ysgol ddyddiol am flwyddyn nes agor ysgol bwrdd yn y pentref. Digwyddodd hyn yn ystod 1856-7, gyda'r Parch. D.D. Jones, Bangor, yn athro, a phwyllgor a benodwyd gan yr eglwys yn ei rhedeg. Fodd bynnag, nid oedd y cyfleusterau'n dderbyniol ar gyfer ennill grant gan y Llywodraeth at gynnal yr ysgol. Cynhelid ysgol nos hefyd gan yr athro a hynny ar gyfer oedolion.

Blaenoriaid

Penodwyd Robert Griffith, blaenor yn Llanllyfni yn y lle cyntaf, ond ym 1830 codwyd un Robert Dafydd, aelod o'r capel yn Nhal-y-sarn, yn flaenor.

John Jones Talysarn

Mae'r capel yn gysylltiedig â hanes John Jones, Tal-y-sarn, gan mai yma y gwnaeth y pregethwr enwog enw iddo'i hun fel un o weinidogion pwysicaf ei gyfnod. Daeth i'r capel yn y lle cyntaf ar ddiwedd 1822, gan bregethu yno 31 Rhagfyr.

Y trydydd capel

Teimlid erbyn canol yr 1870au fod y capel wedi mynd yn rhy fach, ac fe'i ehangwyd, trwy ddefnyddio rhai o'r waliau a'r sylfeini i godi capel newydd, ac fe wnaed cryn dipyn i sicrhau ei fod yn gapel hardd a chyfleus. Costiodd y capel newydd £3046 i gyd, ac yr oedd yno seddau i 700. Owen Morris Roberts o Borthmadog oedd y pensaer.[4] Dyma un o gapeli mwyaf Arfon felly. Fe'i hagorwyd yn swyddogol 11 Chwefror 1878 pan fu'r Cyfarfod Misol yn cyfarfod yno.

Ym 1899 adeiladwyd mans ar gyfer y gweinidog, ac ym 1901 gosodwyd organ fawr yn y capel.

Yn sicr, bu i godi capel newydd ddwyn ffrwyth ac, yn fuan wedi ei agor, roedd 306 o aelodau yno, nifer a gynyddodd i 365 erbyn 1900.

Cyfeiriadau

  1. Prif ffynhonell ar gyfer yr erthygl wreiddiol yma yw Hobley, W. Hanes Methodistiaeth Arfon, Dosbarth Clynnog (Cyfarfod Misol Arfon, 1921) tt. 187-211
  2. Gwefan Coflein, [1], cyrchwyd 5.4.2020
  3. W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.191
  4. Gwefan Coflein, [2], cyrchwyd 5.4.2020