Chwarel South Dorothea

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:34, 6 Gorffennaf 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwarel lechi un twll oedd Chwarel South Dorothea (SH 494529), a orweddai rhwng Chwarel Coedmadog i'r gorllewin a Chwarel Dorothea i'r dwyrain a'r gogledd. Chwarel lechi oedd Chwarel South Dorothea, neu Cornwall fel y gelwir weithiau, a lleolir yn agos iawn i dwll Chwarel Dorothea yn Nhalysarn.

Roedd y chwarel yn weithredol ers 1760 yn ôl Dewi Tomos, ac mae o'n awgrymu efallai mai tynfa gwaith copr Drws-y-coed a ddenodd ddynion o Gernyw i weithio yn y twll yma. Erbyn 1862, roedd 70 o ddynion cyflogedig yno yn cynhyrchu o gwmpas 1,040 tunnell yn flynyddol. Fe'i hailagorwyd tua 1867, gan Gwmni Llechi South Dorothea. Ym 1882, cynhyrchwyd 1040 tunnell o lechi yno, gan 70 o ddynion. Cynyddodd graddfa cynhyrchiant y chwarel erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg i 3,000 tunnell yn flynyddol. Yn 1921, prynwyd y chwarel gan gwmni Dorothea a'i chau yn swyddogol yn 1957.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma



Cyfeiriadau

  1. Dewi Tomos, Chwareli Dyffryn Nantlle (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007), t.76