Tal-y-sarn

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad o Talysarn)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Pentref chwarelyddol yw Tal-y-sarn yn Nyffryn Nantlle, sydd bellach ym mhlwyf a chymuned Llanllyfni er, tan 1980au'r ganrif ddiwethaf, roedd yn rhan o blwyf Llandwrog. Dyma oedd terfyniad y gangen o reilffordd a redai o Ben-y-groes. Enw'r orsaf oedd Gorsaf reilffordd Nantlle. Mae'r adeilad yn dal i sefyll ac wedi'i addasu'n ganolfan gymunedol, gydag aden o'r adeilad wedi ei hymestyn dros y lle y redai trenau ar hyd y platfform yn y dyddiau gynt. Mae'r iard nwyddau helaeth wedi ei droi'n gau chwarae.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma