Llanllyfni

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:12, 19 Rhagfyr 2017 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Llanllyfni yw un o blwyfi Uwchgwyrfai. Yn ogystal â phentref Llanllyfni sydd yn ymestyn o lannau'r afon Llyfnwy i fyny'r allt ar hyd yr hen lôn bost, mae nifer o bentrefi a threflannau eraill o fewn ffiniau'r plwyf: Pen-y-groes (prif bentref Dyffryn Nantlle), Tal-y-sarn, Tanr'allt, Nebo a Nasareth. Ers i ffiniau plwyfi (neu gymunedau, i roi eu teitl swyddogol iddynt) newid tua diwedd yr 20g, mae Llanllyfni hefyd yn cynnwys pentref Nantlle.

Ffiniau a thirwedd

Nid oes unrhyw rhan o'r arfordir o fewn plwyf Llanllyfni - dyma unig un o blwyfi Uwchgwyrfai heb ddarn o arfordir. Mae plwyf Llandwrog i'r gogledd, a phlwyf Clynnog-fawr i'r gorllewin a'r de. Mae'r afon Llyfnwy'n ffurfio'r ffin rhwng plwyfi Clynnog a Llanllyfni rhwng fferm Dol-gau Phont-y-Cim. Mae ffin Llanllyfni'n codi i ben crib Nantlle tua phen dwyreiniol Craig Cwm Dilyn, gan gwrdd â ffin plwyf Dolbenmaen â chwmwd Eifionydd yn y fan honno. Mae ochr ddeheuol Dyffryn Nantlle jhefyd yn eido i blwyf Llanllyfni.

Mae rhannau'r plwyf rhwng y briffordd i Borthmadog a'r ffîn ger Pontlyfni yn dir amaethyddol gweddol dda er gwaethaf ei natur tywodlyd, ond tir mynyddig, gwlad y tyddynod bach a'r mynydd agored yw llawer o'r gweddill. Ceir creigiau serth iawn a rhostir ar lethrau Cwm Silyn a Cwm Dulyn. Mae lalwer o'r llethrau hefyd wedi eu creithio gyda thomennydd llechi - er, at ei gilydd, mae'r gwythiennau o dan lefel y pridd, ac felly gwaned tyllau mawr i gyrraedd at y graig fwyaf cynhyrchiol.

Yr eglwys a'i sant

Mae hen eglwys y plwyf wedi ei chysegru yn enw Rhedyw Sant, ac fe saif ar lan yr afon Llyfnwy. Codwyd eglwysi ar gyfer y boblogaeth oedd yn cynyddu mewn rhannau eraill y plwyf, ym Mhen-y-groes a Thal-y-sarn yn ystod canol y 19g.

Er i'r eglwys gael ei hadnewyddu'n sylweddol ym 1879, mae'r rhannau hynaf yn dyddio'n ôl i'r 14g.

Dichon bod eglwys ar y safle ers dyddiau cynnar Christnogaeth yng Nghymru, wedi ei sefydlu gan Redyw ei hun yn ystod y 5g. Dywedir mai un o Arfon ydoedd, er iddo symud i ardal Autun yn Ffrainc.

Ei ŵyl Mabsant yw'r 6 Gorffennaf, pan gynhelir Gŵyl Rhedyw (neu Ffair Llanllyfni) yn flynyddol. Mae Ffynnon Rhedyw gerllaw, a ddefnyddid ar gyfer bedyddio yn y gorffennol.

Tai pwysig ac enwogion

Roedd Baladeulyn yn llys i'r Tywysog yn ystod y canol oesoedd, er nad oes sicrwydd ymhle yn union y safai'r llys. Nid oes plasty mawr yn y plwyf bellalch, er bod nifer o dai'n perthyn i fân fonheddwyr. Efallai y cartref pwysicaf oedd Lleuar Fawr, cartref y milwr Piwritannaidd George Twistleton a briododd ferch oedd yn perthyn i deulu Glyn.

Y pentref