Bryn Terfel

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:52, 24 Ionawr 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Magwyd Bryn Terfel, neu Bryn Terfel Jones (g.1965) (Syr Bryn Terfel erbyn hyn) ar fferm Hendre Nantcyll, Pant-glas, gan fynychu Ysgol Dyffryn Nantlle. Ar ôl mynychu Coleg Cerdd a Drama'r Guldhall yn Llundain a phrofi llwyddiant fel canwr opera, fe brynodd hen adeilad Clwb Fron Dinas, rhwng Ffrwd Cae Du a phentref Y Bontnewydd, gan ei addasu a magu ei deulu yno. Y mae bellach yn byw ym Mhenarth gyda'i ail wraig. Gellid honni mae ef yw'r canwr o Gymro a ddaeth yn fwyaf enwog trwy'r byd, o leiaf ers dyddiau Geraint Evans, ac un o'r perfformwyr cerddorol mwyaf i ddod o Uwchgwyrfai erioed.

Ymysg ei weithgarwch cymunedol ac elusengar gellir nodi noddi Gorsaf y Bontnewydd ar lein Rheilffordd Eryri; cychwyn a threfnu nifer o wyliau hynod lwyddiannus, sef Gŵyl y Faenol; a noddi Ysgoloriaeth Bryn Terfel Urdd Gobaith Cymru ymysg eraill.

Enillodd Gwobr Lieder cystadleuaeth Canwr y Byd yng Nghaerdydd ym 1989.

Mae o wedi recordio llawer iawn o gerddoriaeth o fyd yr opera, cerddoriaeth fwy poblogaidd megis caneuon o sioeau cerdd Americanaidd, a sawl albwm o ganeuon Cymraeg, gan gynnwys cydweithrediadau gyda'r cyfansoddwr o Ddyffryn Nantlle, Robat Arwyn.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Am fanylion llawn gyrfa Bryn Terfel, ei ddisgyddiaeth ac ati, cyfeirir at dudalen Wicipedia [1] a Wikipedia Saesneg [2]