Clwb Fron Dinas

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Clwb Fron Dinas yn glwb cymdeithasol yn nhŷ Fron Dinas yn Ffrwd Cae Du a ffynnai rhwng 60au a 90au'r ganrif ddiwethaf. Fe'i lleolid mewn eiddo a fu'n wersyll carcharorion rhyfel a weithiai ar ffermydd yr ardal wedi'r rhyfel. Yn ogystal â bar, yr oedd yno lolfa lle cynhelid bingo a theatr gyda pherfformiadau gan adlonwyr amrywiol. Y perchennog oedd Glyn Davies, gŵr a oedd wedi bod yn athro yng Ngorllewin Affrica cyn dychwelyd i redeg busnes yng Nghymru. Roedd y clwb ar ei fwyaf llewyrchus pan nad oedd tafarndai'r sir yn cael agor ar y Sul, a bu hynny mewn grym tan y 1980au. Gan fod rheolau gwahanol yn berthnasol i glybiau yfed fe ganiateid iddynt werthu diod i aelodau saith niwrnod yr wythnos. Bu edwino araf wedi i'r tafarnau agor ar y Sul ac fe'i caewyd yn niwedd y 1990au.

Roedd gan y clwb dîm criced llewyrchus a chwaraeai eu gemau cartref ar y cae criced y tu ôl i'r clwb. Ymysg yr aelodau amlwg oedd Emyr Price, yr hanesydd a wnaeth gymaint i ddod â hanes David Lloyd George i silffoedd llyfrau'r Cymry.

Prynwyd yr adeilad gan Bryn Terfel fel cartref iddo ef ei hun a'i deulu, ac fe chwalwyd olion y cytiau lle bu'r carcharorion yn byw, ailwampio'r tŷ gwreiddiol a chodi adeilad cerdd ar wahân.[1]

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth leol a phersonol