Rheilffordd Eryri

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:23, 23 Tachwedd 2017 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Rheilffordd Eryri yw'r enw a fabwysiadwyd gan gwmni Rheilffordd Ffestiniog wrth ail-adeiladu prif lein Rheilffordd Ucheldir Cymru a'i hymestyn i Gaernarfon. Er i enw Welsh Highland Railway gael ei ddefnyddio o hyd yn Saesneg, dewisodd y nifer helaeth o Gymry Cymraeg oedd wrthi'n adfer y lein mai Rheilffordd Eryri yn enw mwy addas, gan fod lein fach arall ym Mhorthmadog yn defnyddio enw cyffelyb - sef y Welsh Highland Heritage Railway.