Moeltryfan (ardal)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:23, 27 Tachwedd 2018 gan Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Moel Tryfan yn rhan o setliad Rhosgadfan, sef y rhan uchaf o'r pentref hwnnw; ond yn groes i Rosgadfan ei hun sydd ym mhlwyf Llanwnda, mae Moel Tryfan yr ochr arall i'r ffin, ym mhlwyf Llandwrog. Daw'r enw o'r ffaith ei fod ar lethrau gorllewinol mynydd Moel Tryfan. Bu capel annibynnol yno, Capel Moel Tryfan (A) sydd bellach wedi ei ddymchwel, yn ogystal â mynwent helaeth a oedd yn perthyn i'r capel. Mae'r rhesdai uchaf ar gwr rhan orllewinol Chwarel Alexandra.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma