Moel Tryfan (mynydd)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mynydd yn ucheldir plwyfi Llandwrog a Llanwnda yw Moel Tryfan - mae'r ffin yn rhedeg dros gopa'r mynydd. Mae chwarel o'r un enw gerllaw i'r de-ddwyrain ac fe roddodd y mynydd ei enw i bentref neu dreflan Moel Tryfan ar ei lethrau gorllewinol. Ei uchder yw 1139 troedfedd uwchben y môr.

Mae'r mynydd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig am resymau daearegol yn bennaf, oherwydd i waddodion yn cynnwys cregin gael eu darganfod yno ym 1831, gan brofi y bu unwaith dan y môr. Cododd hyn ddadl rhwng y rhai a welodd yn y dystiolaeth gadarnhad o wirionedd yr hanes am ddilyw Noa, tra ystyriai rhai mai prawf o oed mawr y ddaear a symudiadau daearegol oedd i'w gweld yma. Ymwelodd Charles Darwin (a oedd yn ddaearegwr o ran ei alwedigaeth wreiddiol) ym 1842 i astudio'r darganfyddiadau ar y safle.[1] NI chafodd hyd i unrhyw gregin, fodd bynnag, ond fe ffurfiodd ddamcaniaeth ynglŷn â'r rheswm am fodolaeth y fath beth trwy awgrymu mai'r achos oedd symudiadau mawr daearegol a blygodd ac a falodd y gwythiennau o lechi gerllaw.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau