Capel Hermon (A), Moeltryfan

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad o Capel Moel Tryfan (A))
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Capel annibynnol ger Moel Tryfan oedd Capel Hermon[1]. Yr oedd mynwent helaeth yn perthyn i'r capel, a deil honno'n agored ar gyfer claddedigaethau hyd heddiw, gyda phwyllgor lleol yn gyfrifol amdani.

Adeiladwyd y capel cyntaf tua 1840, ac yna ei ail-adeiladu ym 1862. Atgyweiriwyd y capel yn 1872, a chafodd ei ail-adeiladu eto ym 1884 – hwn oedd y cynllun olaf i’r pensaer o Landwrog, R. Ll. Jones, ei ddylunio.[2].

Cafodd y capel ei gau ym 1996, ac mae bellach wedi ei ddymchwel. Y gweinidog olaf i wasanaethu'r eglwys oedd y Parch John Hughes, a ddychwelodd i ymddeol yn ei bentref genedigol yn ystod y 1980au.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau