Teulu Glynllifon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:01, 21 Ionawr 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Trosolwg

Mae Teulu Glynllifon yn un o'r teuluoedd mwyaf hirhoedlog ymysg uchelwyr cwmwd Uwchgwyrfai, gyda'u hachau'n ymestyn yn ôl yn gadarn i rai o uchelwyr dan y Tywysogion Cymreig. Yn ystod y 16g. fe mabwysiadodd y teulu'r cyfenw "Glynn" (neu "Glyn" neu Glynne - roedd y sillafiad yn newid o un ddogfen i'r nesaf fel oedd yn arferol cyn sefydlu orthograffeg enwau). Roedd hyn yn dilyn yr arfer dan brenhinoedd y Tuduriaid i gydymffurfio ag arferion Seisnig eu cymheiriaid yn Lloegr.

Methodd y llinach trwy'r ochr wryw ar farwolaeth John Glynn ym 1686, a bu i ferch hynaf y plas briodi aelod o deulu Boduan, Llŷn oedd yn arddel y cyfenw "Wynn" ym 1700.[1] Ers yr adeg honno, Wynn yw cyfenw'r teulu. Ers 1776, mae mab hynaf y teulu wedi etifeddu teitl, sef Arglwydd Newborough. Mae yna Arglwydd Newborough o hyd, sydd yn dal i fod yn berchennog ar dir yn Uwchgwyrfai.[2]

Penteuluoedd Glynllifon

Y Glynniaid

Yr achres gynnar, lled ansicr

  • Cilmin Droed-ddu, sylfaenydd y teulu a'i gyfoeth yn ôl y chwedl
  • Lleon
  • Llowarch
  • Iddig
  • Iddon
  • Dyfnaint
  • Gwrydyr

Yr achres weddol gadarn o ddiwedd y 13g ymlaen

  • Ednowain, y ffigwr hanesyddol sicr cyntaf yn yr achres, trydydd fab Gwrydyr yn ôl yr achresi. Roedd ei frawd hŷn, Morgeneu Ynad, ail fab Gwrydyr, yn hen hen hen hen daid i Morfudd ferch Hywel a briododd Tudur Goch o Blas Nantlle.
  • Ystrwyth ab Ednowain
  • Iorwerth Goch
  • Ieuan ab Iorwerth
  • Einion ab Ieuan, a briododd Efa, merch ac etifeddes Ifan ap Trahaearn ab Iorwerth o'r Garthmyl, Sir Drefaldwyn
  • Goronwy ab Einion, a briododd Generis ferch Gwyn ab Ednowain ab Eginir ap Meredydd ap Collwyn
  • Tudur Goch o Blas Nantlle, a briododd Morfudd ferch Hywel, ei chyfnither o'r chweched ach, sef ei chweched cyfnither. Roedd hi'n gyd-etifeddes cangen Morgeneu Ynad o deulu Cilmin Droed-ddu, ac felly daeth ddwy ran o etifeddiaeth Cilmin (a bwrw bod Cilmin yn berson go iawn) at ei gilydd, gan gryfhau eiddo'r teulu.

Y teulu a y gwyddys yn sicr eu bod yn byw yng Nglynllifon

  • Hwlcyn Llwyd, y cyntaf i'w ddisgrifio fel "o Lynllifon". Priododd Nest ferch Cynwrig ap Meredydd Ddu, Porthamel, Môn
  • Meredydd ap Hwlcyn, yn fyw ym 1456
  • Robert ap Meredydd, yn fyw ym 1440
  • Edmund Llwyd, yn marw ym 1540 yn ystod ei flwyddyn fel Uchel Siryf Sir Gaernarfon. Fo oedd ail fab Robert ap Meredydd; roedd ei frawd hŷn, a fabwysiadwyd y cyfenw Glynn am y tro cyntaf yn y teulu mae'n debyg, yn offeiriad Catholig ac yn Archddiacon Meirionnydd, ac felly'n anghymwys i etifeddu ystâd
  • William Glynn, Uchel Siryf Sir Gaernarfon 1562
  • Thomas Glynn, Uchel Siryf Ynys Môn, 1584, gŵr Catherine, merch ac aeres John ap Richard ap Morris o'r Glynn, Llanfwrog, Môn - a ddaeth â thiroedd Môn i'r ystâd
  • Syr William Glynn, Uchel Siryf Môn 1597, a wnaed yn farchod ym 1606 yn sgil ei lwyddiant fel milwr yn Iwerddon. Yn marw 1620
  • Thomas Glynn, Uchel Siryf Sir Gaernarfon 1622, Aelod Seneddol sawl gwaith o 1623 -1640. Botanegydd cynnar. Yn marw 1647
  • John Glynn, a aned tua 1644; Uchel Siryf Sir Gaernarfon 1668-9. Fe briododd Elizabeth, merch Syr Hugh Owen, Orielton, Sir Benfro. Yn marw 1686.

Ni chafodd fab i'w olynu; priododd yr hynaf o'i ddwy ferch, Frances Glynn â Thomas Wynn, Boduan, Pen Llŷn

Dyma'r llinach wryw wreiddiol a feddianodd Glynllifon rywbryd yn ystod y Canol Oesoedd Cynnar nes i'r llinach wryw fethu yn niwedd y 17g. Fe restrir y penteuluoedd yn nhrefn amser. Mae erthyglau unigol yn Cof y Cwmwd am y rhai mwyaf nodedig ohonynt.

Y Wynniaid

  • Syr Thomas Wynn (1678-1749), Aelod Seneddol, barwnig o Foduan a wnaeth Plas Glynllifon yn brif annedd y teulu wedi iddo a'i wraig Frances Glynn etifeddu'r ystad ar farwolaeth John Glynn.
  • Syr John Wynn (1701-1773), yr ail farwnig, Aelod Seneddol. Fe briododd Jane, merch John Wynne o'r Melai, LLanfair Talhaearn ac Abaty Maenan, gan gymryd yr ystadau hynny i mewn i Ystad Glynllifon
  • Syr Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough (1736-1807), y trydydd farwnig a wnaed yn farwn yn yr Arglwyddiaeth Wyddelig. Fe briododd merch Iarll Egmont, ac wedyn Maria Stella
  • Thomas John Wynn, 2il Arglwydd Newborough, 1802-1832, Aelod Seneddol 1826 dros Fwrdeistrefi Caernarfon. Bu farw'n ddibriod ac fe'i olynwyd gan ei frawd
  • Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough (1803-1888)
  • Frederick George Wynn (1853-1920), pedwerydd mab Spencer Bulkeley, a etifeddodd Glynllifon a Boduan gan ei dad. Ni briododd. Dyma'r aelod olaf o'r teulu i fyw'n barhaol yng Nglynllifon. Wedi ei farwolaeth, defnyddid y plas gan y teulu fel tŷ ar gyfer ymweliadau achlysrol, gwyliau a phartïon saethu, er bod llawer o'r ystad yn dal yn eu meddiant - hyd yn oed heddiw.

Cyfeiriadau

  1. W. Gilbert Williams, Glyniaid Glynllifon (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.10 (1949)), t.36
  2. Mae'r brif ffeithiau yn yr erthygl hon i'w canfod yn J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt.172-3