Afon Rhyd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:01, 13 Mawrth 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Yn ôl y mapiau, Afon Rhyd yw enw'r afon sy'n codi rhwng Penrhyn a Chlogwyn-cellog ar lethrau Moel Tryfan, ac yn llifo ar draws y caeau nes lifo o dan bont yng Nghlan-rhyd. Roedd W. Gilbert Williams, fodd bynnag, o'r farn mai Afon Gwyled oedd enw cywir yr afon. Dyma, o bosibl, oedd y rhyd, sef Rhyd y Dimpan, a roddodd yr enw i'r afon. O Lan-rhyd rhêd trwy geunant bach belled â Felinwnda lle 'roedd melin flawd, Melin Wnda. Mae'n llifo i'r Afon Carrog ger Fferm Blythe.