Chwarel yr Hen Fraich
Chwarel lechi ger y Fron oedd chwarel yr Hen Fraich, Chwarel Fraich (neu Fraichrydd).
Mae'r chwarel hon yn cael ei hystyried fel y twll hynaf yn ardal Dyffryn Nantlle yn ôl rhai.[1]. Roedd gwaith chwarelu ar y safle ym 1787 gan bartneriaeth o bump o ddynion; a thua 1800 mae'n bosibl fod John Griffith, Plas Tryfan wedi cymryd prydles. Erbyn 1817, roedd yn cael ei gweithio gan Gwmni Cilgwyn.[2] Mae Jean Lindsay, fodd bynnag, yn ei dyddio i 1830. Fe gafodd ei hailagor ym 1860 gan gwmni preifat ac erbyn 1873 roedd 140 o ddynion yn gweithio yno. Chwarel un twll oedd hon, er bod tair lefel iddi. Roedd ganddi dramffordd (sef Tramffordd John Robinson a gludai llechi Braich ar hyd ochr Chwarel Cilgwyn tan 1881, pan agorwyd Tramffordd y Fron..
Ym 1882, fe'i hunwyd gyda Chwarel y Fron i ffurfio'r Old Braich Slate Quarries Company Ltd., gyda chyfalaf o £15000, ac roedd yn weithredol hyd at 1951 (meddai Dewi Tomos) er mai Jean Lindsay yn dweud 1914.[3]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma