Tramffordd Hafod-y-wern

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:41, 24 Hydref 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Tramffordd Hafod-y-wern yn cysylltu Gorsaf reilffordd Betws Garmon Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru efo Chwarel Hafod-y-wern, er mwyn cludo'r llechi i'r gyffordd â Rheilffordd Llundain a'r Gogledd Orllewin (LNWR) yng Nghyffordd Dinas. Roedd y tramffordd yn 820 llathen o hyd.[1] Fe'i hagorwyd yr un adeg a'r prif lein, ym 1877; dichon bod y chwarel hon, ynghyd â chwareli yn ardal Rhyd-ddu, wedi bod yn rhan o symbyliad agor y lein ond, ysywaeth, caeodd Chwarel Hafod-y-wern erbyn 1888.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), t.48.
  2. J.I.C. Boyd, Narrow Gauge Railways in South Caernarvonshire, Cyf. 1, (Oakwood Press) 1988, t.194