Llongddrylliadau Uwchgwyrfai
Cymharol ychydig o longddrylliadau a ddigwyddodd ar arfordir Uwchgwyrfai ar lan Bae Caernarfon. Mae'r arfordir ei hun wedi ei gysgodi i ryw raddau bach oddi wrth stormydd o'r cyfeiriad arferol, sef y de-orllewin, gan fynyddoedd Yr Eifl, ac os oedd gwyntoedd cryfion yn gyrru llongau hwylio o'u blaen, tueddai'r llongau hynny i daro'r lan ar arfordir Môn o Landdwyn tua'r Gogledd.
Serch hynny, gwyddom am nifer o gychod a llongau a suddwyd oddi ar arfordir y cwmwd:
1760: dwy long yn suddo ar far Caernarfon, a 14 yn colli eu bywydau.[1]
1795: Cwch pysgota a'i griw i gyd wedi ei golli oddi ar draeth Trefor
1 Medi 1829: y brig Swallow, ar ei ffordd i Newfoundland o Lerpwl, yn taro'r lan ger Dinas Dinlle
26 Chwefror 1833: y slŵp Hopewell yn hwylio o Gaernarfon i Borthdinlläen gyda chargo o garreg galch wedi ei golli ar Far Caernarfon, 'r criw o dri wedi boddi er i griw brig arall a oedd wedi angori ger Belan wedi gweld y cyfan roeddynt yn methu helpu. Roedd llong arall, y William and Mary, yn hwylio gyda'r Hopewell ar yr un perwyl, ond llwyddodd honno i gliriio'r bar a chael lloches ger traeth Llanaelhaearn yng nghysgod Yr Eifl.[2]
18 Mehefin 1840: y barc Jane o Orleans Newydd, yn cario bwndeli o gotwm i Lerpwl yn mynd i lawr ar far Caernarfon. Achubwyd y criw i gyd.
7 Ebrill 1841: y Strathmore, brig 198 tunnell o Leith, Yr Alban, ar fordaith o Bahia, Brasil i Lerpwl, gyda llwyth o siwgr, cotwm a rhosbren yn cael ei dryllio ar greigiau Trwyn y tâl[3]
Mawrth 1842: Brig yr "Heron" yn taro'r lan ger Clynnog Fawr. Llwyddwyd i'w chael yn rhydd a'i thowio hi i Gaernarfon lle gafodd ei thrwsio.
Ionawr 1843: Stemar y ''Monk'' oedd yn hwylio o Bortinlläen am Lerpwl (gweler isod).
Ionawr 1845: y barc William Turner o Felffast, yn cludo gwano o Dde Amerig i Lerpwl yn cael ei dryllio ar far Caernarfon, a'r criw i gyd yn boddi.
Ionawr 1846: y Scotland, llong o America, dan law 'r Capten Snow, yn hwylio o Lerpwl am Orleans Newydd mewn balast, yn cael ei dryllio ar arfordir y bae ger Clynnog Fawr, ar ôl llusgo ei hangor ger Porthdinlläen.[4]
11 Medi 1847: y sgwner Vine o Nefyn yn suddo ar far Caernarfon, a dim ond un yn cael ei achub.
Ionawr 1863: y llong Pamela Flood o Efrog Newydd yn suddo yng nghanol y bae, 12 milltir o Gaergybi ac yn nes o dipyn i Glynnog. Achubwyd neb oddi ar ei bwrdd heblaw am y capten, John R. Anderson, a lwyddodd i gydio mewn darn mawr o bren o'r llong ac a gafodd ei olchi i'r lan ger Tŷ Mawr, Clynnog Fawr.[5]
Tachwedd 1877: y barc Witness o Sunderland a ddrylliwyd yn Aberdesach gyda chargo o lo a werthwyd wedyn ar y traeth, 6 Rhagfyr.[6] Gwnaed cadair eisteddfodol allan o beth o goed y llong ar gyfer Cyfarfod Cystadleuol Llanllyfni, Ebrill 1878.[7]
12 Rhagfyr 1883: Y Lady Hincks, yn cario coed o America i Lerpwl, eto'n taro creigiau Trwyn y tâl. Achubwyd pawb oddi ar ei bwrdd.[8]
1971: cerbyd amffibaidd (DUKW) Bill Parry y suddo oddi ar Dinas Dinlle wedi taro cefnen o dywod. Cerddodd Mr Parry i'r lan.[9]
Mae David Thomas yn nodi dau beth diddorol: bod llawer o longau wedi eu dryllio ar Far Caernarfon, sef ceg y Fenai, rhwng banc tywod y de a banc tywod y gogledd, cyn cyrraedd Abermenai ei hun. Yn ail, mae'n nodi bod llawer o longau yn ceisio cyrraedd Portinlläen ac yn cysgodi yno gan ei fod yn harbwr diogel pan oedd corwynt o'r gorllewin.[10]
Yn ddi-os, rhestr fer o rai longddrylliau yn unig sydd yma; ni chofnodwyd llawer ohonynt, yn arbennig cyn canol y 18g.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
- ↑ David Thomas, Hen Longau Sir Gaernarfon, (Caernarfon, 1952), t.141
- ↑ The Cambrian, 2.3.1833, t.3
- ↑ Monmouthshirte Merlin, 17.4.1841, t.2
- ↑ Pembrokeshire Herald, 30.1.1846, t.3
- ↑ Lewis Lloyd,The Port of Caernarfon, 1793-1900 (Caernarfon, 1989), tt.129-141
- ↑ North Wales Chronicle, 8.12.1877, t.4
- ↑ Y Goleuad, 13.4.1878, t.13
- ↑ Henry Parry, Wreck and Rescue on the Coast of Wales, Cyf. I (Truro, 1969), t.63-68.
- ↑ Rhodri Prys Jones, Chwadan Bil Parry, (Caernarfon, 1980).
- ↑ David Thomas, Hen Longau Sir Gaernarfon, (Caernarfon, 1952), tt.141-3