Brig yr "Heron"

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Brig hwyliau oedd yr Heron. Bu ar fordaith yn cychwyn o Lerpwl am Ynys Melita, gydag un Capten Cacace yn gapten arni. Trawodd y lan ger Clynnog Fawr 19 Mawrth 1842, ond llwyddwyd i’w chael yn ôl i’r môr agored, ac fe’i towiwyd i Gaernarfon lle gwnaed gwaith ar y llong i'w throi yn frigantîn. Cafodd ei hailgofrestru fel llong o Gaernarfon, ac fe’i henwyd o’r newydd yn St. Helen.[1]

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Coflein [1]