Stemar y ''Monk''

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Trychineb a ddigwyddodd oddi ar arfordir Uwchgwyrfai oedd llongddrylliad y stemar fechan, The Monk, ar 7 Ionawr 1843, a bu Eben Fardd yn dyst iddo, fel y noda yn ei ddyddiadur am y diwrnod hwnnw. Roedd y llong wedi cychwyn o Bortinllaen tua 3 o'r gloch y p'nawn hwnnw ac yn hwylio am Lerpwl gyda llwyth o foch a chynnyrch fferm o Lŷn - roedd llawer o deithiau o'r fath rhwng Lerpwl a phorthladdoedd bychain Llŷn yn y cyfnod hwnnw nes i oes y trên eu disodli. Yn ogystal â chriw y llong, roedd nifer o bobl leol ar ei bwrdd hefyd gyda'u cynnyrch. Aeth y llong i drafferthion ym Mae Caernarfon mewn gwynt cryf ac nid oedd ei hinjan fechan yn ddigonol i'w chadw ar ei llwybr. Dywed Eben iddi gael ei dryllio ar far gogleddol Caernarfon tua 7.00p.m. a phan aeth ef i'r ffynnon (Ffynnon Beuno mae'n debyg) i nôl dŵr tuag wyth roedd goleuadau yn ei rigin i'w gweld o hyd. Dywed fod pawb ar ei bwrdd wedi boddi, heblaw am 6 a achubwyd.[1]

Roedd y Monk yn gwch gweddol newydd, 70 tunnell, a oedd wedi ei adeiladu ym 1839.

Cynhaliwyd cwest a gynhaliwyd yn Niwbwrch gan Grwner Sir Fôn, William Jones, ar saith corff oedd yn cynnwys y capten, sef Capten Henry Hughes, a ganfuwyd ar lan y môr yng Nghlynnog a Llandwrog. Nodwyd gan y crwner nad oedd bad achub Llanddwyn ar gael yn y lle arferol, ac roedd hynny wedi ychwanegu o bosibl at golli bywydau. Barn Thomas Jones, Tai'r Dur, un o'r chwech a oedd wedi cael eu hachub, oedd bod digon o ddyfnder dŵr i gadw'r llong heb gael ei dryllio pe bai peilot arni.[2] Yn ôl y papur newydd, roedd 15 wedi boddi er nad oedd cwest ond ar gyrff saith a ganfuwyd ar draeth Niwbwrch. Ymhlith y rhai a gollwyd, roedd bachgen ifanc 17 oed, Philip Parry o Tan-y-ffynnon, Dinas, a oedd wedi mynd ar y daith i gynorthwyo efo'r moch. [3]

Yn unol ag arfer y cyfnod cyfansoddwyd mwy nag un faled i gofio llongddrylliad y Monk, ac enwir y rhai a gollwyd ynddynt. Hefyd pan gynhaliwyd ymchwiliad yn ddiweddarach i'r drychineb, nodwyd bod y llong mewn cyflwr cyffredinol wael, ei bod yn gollwng a hefyd ei bod wedi ei gorlwytho fel ei bod yn rhy isel yn y dŵr.

Cyfeiriadau

  1. Detholion o Ddyddiadur Eben Fardd, E.G. Millward (gol.) (Gwasg Prifysgol Cymru, 1968), t.141.
  2. North Wales Chronicle,24.1.1843, t.4
  3. Gwybodaeth bersonol. Roedd yn frawd i hen, hen daid i awdur y wybodaeth yma..