Pen-y-groes

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:00, 3 Rhagfyr 2025 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Y Map Degwm yn dangos pentref Pen-y-groes ym 1840

Pen-y-groes yw'r pentref mwyaf yn ardal Dyffryn Nantlle. Yn wir, dyma'r gymuned fwyaf yn holl gwmwd Uwchgwyrfai ers iddi ddatblygu yn ystod ail hanner y 19g., gan adael pentref bychan hynaf y plwyf, sef Llanllyfni yn ei chysgod. Bu sôn am bentref yn Llanllyfni ers yr 17g., a dyna lle'r oedd eglwys y fro a lle cynhelid ffair ers canrifoedd - a lle'r oedd y nifer fwyaf o dafarnau'r dyffryn! Er i lawer o chwarelwyr fyw ym Mhen-y-groes pan oedd chwareli'r dyffryn ar eu hanterth, roedd Pen-y-groes y tu allan i ardal ddaearyddol y llechfaen, a gwasanaethodd y pentref fel canolfan fasnachol y dyffryn, ac yn y man fe ddatblygodd fel prif leoliad siopau'r dyffryn, a chartref nifer o greffwyr a mân ddiwydiannau. Roedd (ac y mae) chwarel tywod a gro ar gyrion y pentref.

Ceir darlun cyfoes gwych o'r pentref pan oedd yn tyfu yn nisgrifiad Owen Owen o Ben-y-groes, o'i lyfr Hen Atgofion am Ben-y-groes. Mae rhan o'r llyfr yn disgrifio'r pentref tua 1870 wedi ei atgynhyrchu yn Cof y Cwmwd a gellir ei ddarllen trwy glicio yma.

Datblygiad y pentref

Mae'n debyg mai enw ar fferm neu dyddyn oedd Pen-y-groes i ddechrau, gyda'r enw yn disgrifio'r lleoliad ger y groesffordd rhwng y lôn fawr o Gaernarfon i Benmorfa a lôn a redai o gyfeiriad y môr ger Pontlyfni i ben pellaf Dyffryn Nantlle. Yn ôl yr hanesydd William Hobley, "Tua diwedd y ddeunewfed ganrif nid oedd yma namyn un tŷ tô gwellt, a gelwid ef yn Pen y groes, am ei fod wedi ei adeiladu gerllaw croesffordd. Erbyn dechreu'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yr oedd yma dri o dai yn y fan a elwid wedi hynny yn Heol yr Efail, ac un tŷ go helaeth, a berchnogid ac a breswylid gan John Edwards, gŵr crefyddol."[1] Un o'r cyfeiriadau cyntaf at Ben-y-groes yw nodyn ym mhapurau Llys Chwarter y sir ym 1813, lle rhwymwyd Morgan Roberts, iwmon (sef ffermwr gweddol gefnog) o Ben-y-groes i gadw'r heddwch wedi ffrae rhwng rhai o ddynion y dyffryn.[2] Nid oedd y "North Wales Gazette" yn sicr o enw'r ardal ym 1825, wrth gyhoeddi enillwyr gwobrau amaethyddol: To William Jones, Penygroes or Llwynddu, in the parish of Llanllvfni, a tenant of Sir Joseph Huddart, for reclaiming and improving 10 Acres of uncommon rough uncultivated land and bringing the same, through good management and persevering industry, into a good state of tillage — JUSTLY entitled to the reward.— A premium of 5 Guineas.[3]

Ar y groesffordd, neu gerllaw iddi, yr oedd tafarn, y "Pen-y-groes Inn" erbyn y 1820au, gan fod cyfeiriad ati ym 1829 fel man aros i deithwyr answyddogol ar Reilffordd Nantlle a oedd wedi agor ym 1828.[4] Safai'r dafarn (a elwid yn Tafarn y Stag yn swyddogol) ar y groesffordd lle mae Yr Orsaf heddiw, sef yr hen Siop Griffiths. Roedd hi'n gwasanaethu fel man cyfleus i deithwyr ar eu siwrne ar hyd Dyffryn Nantlle neu rhwng Caernarfon ac Eifionydd. Gan fod Rheilffordd Nantlle yn croesi'r ffordd dyrpeg yn yr un fan, dichon i bentref bach ddechrau ymffurfio, fel y digwyddodd yn achos pentref Y Groeslon. Serch hynny, mae'r map degwm yn dangos cyn lleied o dai oedd wrth y groesffordd erbyn 1840. Wrth astudio'r map, a'r rhestr o'r daliadau tir sydd ynghlwm wrtho[5], gellir cael gwell argraff o'r pentref yn ei ddyddiau cynnar.

Wedi i Reilffordd Nantlle gyrraedd ym 1828, fe ddechreuodd y pentref dyfu o amgylch croesfan y trac. Gwelir llinell y rheilffordd ar y map degwm ar y dde, yn croesi canol y map o'r chwith i'r dde. Erbyn 1840 roedd o leiaf dwy dafarn a dau ddwsin neu fwy o dai bach sâl eu cyflwr yno, a ddisgrifir fel "poor cottages", a nifer wedi eu codi ar dir Ystad Bryncir. Y rhes hir ar ochr y lôn fawr i gyfeiriad Caernarfon yw tai Treddafydd, a godwyd tua 1835 gan Robert Williams, teiliwr y pentref. Ychydig cyn hynny, ym 1830, roedd capel Wesle wedi ei godi yn Nhreddafydd hefyd, ac roedd cynulleidfa gymysg o Fethodistiaid ac Annibynwyr yn cwrdd mewn tŷ ger y Stag's Head hefyd yn yr 1830au. Wrth y groesfan reilffordd yr oedd seidins a warws y lein, a ffynnon y pentref.[6]

Cynyddodd y pentref yn raddol tan yr 1860au, pan godwyd llawer o'r tai presennol a siopau yn agor. Codwyd capeli newydd gan y pedwar enwad, ond rhaid oedd i eglwyswyr ddisgwyl tan 1889 cyn codi Eglwys Crist, Pen-y-groes; cyn hynny, rhaid oedd ymlwybro tua Llanllyfni ar y Sul.


Cyfeiriadau

  1. W. Hobley, ‘’Hanes Methodistiaeth Arfon’’, Cyf. I (Caernarfon, 1910), t.295
  2. Archifdy Caernarfon, XQS/1813/15/80
  3. North Wales Gazette, 1.9.1825, t.1
  4. The Memoirs of Samuel Holland, (Dolgellau, 1952),
  5. LlGC, Map Degwm a Rhestr Bennu plwyf Llanllyfni, 1840
  6. Owen Owen, Hen Atgofion am Ben-y-groes