Yr Orsaf

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae adeilad Yr Orsaf wedi'i leoli yng nghanol pentref Pen-y-groes, yn yr hen Siop Griffiths. Yn wreiddiol, Tafarn y Stag oedd yr adeilad, a dywedir mai yn y dafarn y gellid prynu tocynnau i deithio ar drenau Rheilffordd Nantlle a disgwyl i'r trên gyrraedd, a hynny sy'n esbonio'r enw a fabwysiadwyd gan y perchnogion newydd.

Fe achubwyd yr hen adeilad gan griw o wirfoddolwyr yn 2016 a sefydlwyd pwyllgor gyda'r enw Siop Griffiths Cyf. Eu nod oedd sicrhau bod yr adeilad hanesyddol hwn yn aros yn nwylo'r gymuned, er lles y gymuned.

Erbyn hyn mae'r Orsaf yn llawer mwy nag adeilad. Mae'n hwb cymunedol pwysig yn y Dyffryn sy'n cynnig cyfleoedd gwerthfawr i blant, pobl ifanc ac oedolion ac yn cynnig swyddi i drigolion yr ardal. Mae'n gartref i gaffi, llety 3 ystafell, ystafell aml-bwrpas, canolfan ddigidol a swyddfeydd i'r staff. Yn ogystal â hyn, mae amryw o brosiectau ar y gweill - o'r Pantri Cymunedol i'r Gweithdy Cerddoriaeth, er mwyn darparu rhywbeth at ddant bawb.[1]

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Yr Orsaf, [1], cyrchwyd 3.7.2023