William John Roberts (Llwydlas)
Ganwyd William John Roberts (Llwydlas) ym 1834 yn Nhŷ’n Ffrwd, Rhos-isaf i John Roberts, chwarelwr, ac Anne ei wraig fel pedwerydd plentyn y teulu. Y cartref wedyn oedd Borthdwr, y drws nesaf i dŷ Cae'r Gors, yn Rhosgadfan.[1]
Ac yntau’n oedolyn, symudodd i Stryd yr Wyddfa, Pen-y-groes, y drws nesaf i Dafarn yr Afr, wedi iddo dderbyn swydd fel asiant chwarel. Bu’n byw yno gyda’i wraig Ellen neu Elizabeth Anne, dynes o Ddolgellau’n wreiddiol, a’u merch Anne Elizabeth, a aned ym 1866. Roedd y teulu’n dal yn Stryd yr Wyddfa ym 1881 ar adeg y cyfrifiad er nad oedd William Roberts adref ar noson y gwnaed y cyfrifiad. Yr un oedd y sefyllfa ym 1891, ond bod Elizabeth Roberts wedi symud y drws nesaf i gadw gwesty’r Afr.[2]
Yr oedd Llwydlas yn frawd i’r llenor, yr athro a’r offeiriad Owen Wynne Jones (Glasynys), ac er nad oedd cystal â’i frawd fel llenor, fe’i cyfrifid ar y pryd yn fardd da iawn gan W.R. Ambrose. Yn ôl hwnnw, roedd Llwydlas wedi ennill y wobr gyntaf mewn sawl cyfarfod cystadleuol.[3]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma