William John Roberts (Llwydlas)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:05, 16 Mai 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ganwyd William John Roberts (Llwydlas) ym 1834 yn Nhŷ’n Ffrwd, Rhos-isaf i John Roberts, chwarelwr, ac Anne ei wraig fel pedwerydd plentyn y teulu. Y cartref wedyn oedd Borthdwr, y drws nesaf i dŷ Cae'r Gors, yn Rhosgadfan.[1]

Ac yntau’n oedolyn, symudodd i Stryd yr Wyddfa, Pen-y-groes, y drws nesaf i Dafarn yr Afr, wedi iddo dderbyn swydd fel asiant chwarel. Bu’n byw yno gyda’i wraig Ellen neu Elizabeth Anne, dynes o Ddolgellau’n wreiddiol, a’u merch Anne Elizabeth, a aned ym 1866. Roedd y teulu’n dal yn Stryd yr Wyddfa ym 1881 ar adeg y cyfrifiad er nad oedd William Roberts adref ar noson y gwnaed y cyfrifiad. Yr un oedd y sefyllfa ym 1891, ond bod Elizabeth Roberts wedi symud y drws nesaf i gadw gwesty’r Afr.[2]

Yr oedd Llwydlas yn frawd i’r llenor, yr athro a’r offeiriad Owen Wynne Jones (Glasynys), ac er ei fod yn llenor cystal â’i frawd, fe’i cyfrifid ar y pryd yn fardd da iawn.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad plwyf Llanwnda, 1841
  2. Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni, 1871-91
  3. W.R. Ambrose, Nant Nantlle (Pen-y-groes, 1872), t.87