Cwm (trefgordd)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:44, 23 Awst 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Rhoddwyd trefgordd Cwm yn ardal mynyddoedd Gurn Ddu a Bwlch Mawr i fynaich Sistersaidd Aberconwy gan Gruffydd ap Cynan tua 1186 wrth iddynt ymsefydlu yn Rhedynog Felen ac wedyn Aberconwy, ac fe gadarnhawyd y rhodd gan siartr Llywelyn ab Iorwerth tua 10 mlynedd yn diweddarach.[1] Roedd y mynaich hyn hefyd yn berchen ar luest neu ffermdir Rhedynog Felen yn nhrefgordd Dinlle. Parhaodd yr ardal ym meddiant y Sistersiaid hyd nes i'r mynachlogydd gael eu diddymu yn y 1530au. Ym 1562, roedd y trefgordd ym meddiant Coron Lloegr fel rhan o'r hen diroedd eglwysig, ac fe brydleswyd rhan o'r trefgordd i deulu Clenennau yn Eifionydd.[2]

Y mae llythyr tra diddorol yn Y Brython ar gyfer 1861 sydd yn tystio i barhad cysylltiad Cwm â hen hawliau Priory Beddgelert ac Abaty Aberconwy. Meddai'r gohebydd:

Fel yr oeddwn mewn ymgom â hen amaethwr parchus o ben uchaf plwyf Clynnog Fawr yn Arfon; ac yntau yn henafgwr, gofynais iddo, (yn ol fy arfer i hen bobl,) a oedd dim byd nodedig mewn arfer gwlad, neu olion henafol, y gwyddai, neu a glywai am danynt yn ei ardal.  “Na wn i,” meddai yntau, “am ddim nodedig er fy nghof i, ond Cwrt Beddgelert.”  Holais ef am ei natur; a’r manylion a gefais oedd hyn :– Yr oedd y tyddynod canlynol yn ffurfio treflan y Cwrt :– Monachdy Gwyn, Cwm, Ynys yr Arch, Cae Hir, Hengwm, Llwydmor, Nancelloedd, a’r Tai Duon.  Yr oedd yn rhaid i amaethwyr y tyddynod dalu dirwy am gadw myharen (hwrdd) du, ac am bysgota yn yr afon.  Nid oedd dim treth ffordd fawr arnynt; na dim rhwymau i adgyweirio ffyrdd y plwyf, ond y rhai a oedd yn myned drwy y tyddynod a enwyd.  Yr oedd y tir-ddeiliaid hyn yn myned i Feddgelert bob dechreu haf i gadw’r Cwrt; a byddent yno am ddeuddydd neu dri.  Y mae’r Cwrt wedi peidio ers tua pedair blynedd ar hugain.[3]

Mae'r manylion hyn yn tueddu awgrymu bod Cwrt Beddgelert yn parhau â chysylltiad â Chwm tan oddeutu 1837, sef tua'r adeg pan ddiwygiwyd y systemn o dalu'r Degwm.

Saif ffermdy Cwm heddiw ar ochr y ffordd uchaf ar hyd llethr ddwyreiniol Bwlch Mawr, nid nepell o Hengwm a Mynachdy Gwyn, ond yr oedd ffiniau'r hen drefgordd yn fwy helaeth o lawer. Mae'n bosibl iawn fod Clawdd Seri, hen glawdd ffin sy'n rhedeg dros ardal o'r mynydd a elwir yn Clipiau yn ffin tiroedd yr abaty. Yn ôl Dr Colin Gresham, a gyhoeddod fap o'r ffiniau, mae'r ffin yn rhedeg o gymer neu gyduniad dwy nant fechan i'r gorllewin o'r Felog neu Gyfelog ac ymlaen i'r gorllewin ychydig i'r gogledd o Hengwm, i fyny llethr Mynydd Bwlch Mawr trwy'r Seler Ddu nes gyrraedd Clawdd Seri; ar hyd hwnnw, sydd yn troi i gyfeiriad y de. Ymlaen wedyn i lawr Sychnant rhwng Moel Bronmiod a Phen-y-gaer, ac i lawr Cwm Ceiliog. Rhywle rhwng ffermydd presennol Cwm Ceiliog ac Ynys Goch, cyrddai â sarn a arweiniai at lednant a oedd yn ymuno ag Afon Carrog. Rhedai'r ffin wedyn tua'r gogledd ar hyd Afon Carrog nes cyrraedd y gors ger Bryn-brych ac wedyn o darddiad Afon Desach ymlaen tua'r gogledd nes cyrraedd yr aber ger Gyfelog lle cychwynnodd y disgrifiad hwn o'r ffin.[4]

Mae cryn nifer o olion o amaethu a thai fferm cyfnod y Canol Oesoedd hwyr i'w gweld, yn arbennig ar lethrau dwyreiniol Bwlch Mawr a llethrau Moel Bronmiod.[5]

Erbyn hyn mae Cwm yn ffurfio rhannau mwyaf deuheuol plwyfi Llanaelhaearn a Chlynnog Fawr.


Cyfeiriadau

  1. Colin Gresham, The Aberconwy Charter, (Archaeologia Cambrensis, Rhagfyr 1939), tt.123-4
  2. LlGC, Gweithredoedd Brogyntyn, ETD/1/1
  3. Y Brython", Tachwedd 1861, t.435
  4. Colin Gresham, The Aberconwy Charter, (Archaeologia Cambrensis, Rhagfyr 1939), t.136
  5. David M. Brown a Stephen Hughes, (gol.), The Archaeology of the Welsh Uplands (Aberystwyth, 2003), t.77 (Katherine Geary, Moel Bronymiod)