Moel Bronmiod

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Moel Bronmiod o gopa Gurn Goch

Moel Bronmiod (weithiau Moel Bron-y-miod) yw copa mwyaf deheuol y grŵp o fynyddoedd isel rhwng y môr yn ardal Clynnog Fawr ac Eifionydd. Mae'n sefyll 1365 troedfedd neu 416 metr uwchben lefel y môr. Mae'n edrych dros Cwm Coryn. I'r gogledd o Foel Bronmiod ceir ardal gorsiog a elwir yn Glipiau, ac mae'r ochr ddwyreiniol yn ffurfio un ochr cwm diarffordd Cwm Ceiliog.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau