Mynachdy Gwyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:27, 7 Ionawr 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Mynachdy Gwyn gyda Mynydd Cennin yn y cefndir

Saif Mynachdy Gwyn, hen gartref teulu'r Meredyddiaid yn y 16-18g, ym mhen uchaf plwyf Clynnog Fawrnid nepell o'r ffin ag Eifionydd, ar waelod llethrau Bwlch Mawr ger fferm Cwm. Dywedir bod cofnod o Fynachdy Gwyn yn y flwyddyn 616 OC pan sefydlwyd mynachlog yno gan Gwyddaint, disgybl (yr honnir) i Sant Beuno . Gellir dychmygu mynachlog ar y safle, mewn pant cysgodol wedi ei warchod gan y Bwlch Mawr a Phen y Gaer, gyda’r Afon Wen yn llifo heibio.

Ailsefydlwyd y fynachlog ar un adeg ar gyfer y Mynaich Gwyn. Mae’n bosibl i’r mynaich hyn fod yno hyd nes y dinistriwyd eu mam-Eglwys yng Nghlynnog yn 979 OC.

Mae’r cyfeiriad nesaf at Fynachdy yn gysylltiedig â Llywelyn Fawr a oedd erbyn hyn yn berchen ar diroedd trefgordd Cwm a oedd yn cynnwys Hengwm, Sychnant, Tyddyn Ithel, Tyddyn Mawr, Bryn Brych a’r Gyfelog. Rhoddodd Llywelyn y safle i’r mynaich yn Abaty Aberconwy.

Ar ôl Diddymu’r Mynachlogydd ym 1536, rhoddodd y Goron y faenor i Syr John Puleston. Ar yr un adeg fodd bynnag, roedd Thomas ap Gruffith ap Jenkyn ap Rhys wedi prynu les ar drefgordd Cwm ac wedi symud yno gyda’i deulu i fyw. Yn y man, ymgartrefodd ei ddisgynyddion ef ym Mynachdy. Yn gynnar yn y 17g, ceir hanes Humphrey Meredydd, sef ŵyr Thomas ap Gruffith, yn byw ym Mynachdy. Bu ef yn siryf Sir Gaernarfon ym 1614. Aeth ei frawd, Owen Meredydd, i astudio yng Ngholeg yr Holl Saint, Rhydychen, gan ennill gradd BD ym 1591. Mae cerrig cerfiedig hardd ei feddrod oddi fewn i Eglwys Llanwnda o hyd. Mae cofebion i ddau arall o'r teulu yn y 17g, Gaynor Meredydd a Huw Meredydd ei gŵr (a fu farw 1670) yn Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr.[1]

Roedd y teulu'n berchnogion tiroedd eithaf sylweddol, ond prin yr ystyriwyd y teulu ymysg y rheng uchaf yn y sir. Bu rhai o blant y teulu fodd bynnag yn priodi aelodau o teuluoedd mwyaf y fro, sef Teulu Glyn (Glynllifon), Pennarth a Madryn, priodasau a drefnwyd efallai er mwyn cryfhau'r rhwydwaith o deyrngarwch a dibyniaeth a fyddai'n ychwanegu at ddylanwad Glynllifon ymysg mân-fonheddwyr y fro.

Mae’n debyg i’r tŷ presennol gael ei adeiladu tua 1840 gan gadw rhai o’r waliau gwreiddiol sydd yn dyddio'n ôl i'r 16g.[2]

Dros gyfnod o amser, disgynnodd pwysigrwydd Mynachdy Gwyn fel nad oedd yn fwy na fferm ar ystad Aberdeunant,Beddgelert. Dywedir ar lafar fod cyfamod na ddylid aredig un cae arbennig ac ni wnaed hyn ers i Sarach Davies symud yno ym 1935.[3]

Cyfeiriadau

  1. CHC, op.cit., t.40
  2. Comisiwn Henebion Cymru, Caernarvonshire, Cyf. 2, t. 45
  3. Mae llawer o'r erthygl hon wedi ei gymryd o nodiadau a wnaed gan Sarach Davies ar gyfer arddangosfa yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai.