Priflenorion Uwchgwyrfai
Yma fe restrir enillwyr Y Fedal Ryddiaith (a hefyd y rhai sydd wedi ennill Gwobr Daniel Owen)sydd â chysylltiadau agos ag Uwchgwyrfai, naill ai gan eu bod yn enedigol o'r cwmwd neu oherwydd eu cysylltiadau agos (e.e. eu bod wedi bod yn byw o fewn y cwmwd am gyfnod sylweddol). Mae modd darllen y gwaith i gyd; yn achos y Fedal Ryddiaith, yn y gyfrol a gyhoeddir o'r gwaith buddugol yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Yn achos enillwyr Gwobr Goffa Daniel Owen, bron yn ddi-ffael, cyhoeddwyd y gwaith buddugol gan gyhoeddwr masnachol. Wrth droi at y gyfrol flynyddol berthnasol o'r Gyfansoddiadau a Beirniadaethau, gellir darllen sylwadau beirniaid y ddwy gystadleuaeth.
TUDALEN WRTHI'N CAEL EI CHREU
Enillwyr y Fedal Ryddiaith
Blwyddyn | Eisteddfod | Buddugwr | Teitl |
---|---|---|---|
1939 | Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Dinbych 1939 | John Gwilym Jones | Y Dewis |
1941 | Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Hen Golwyn 1941 | Gwilym R Jones | Y Purdan |
1991 | Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bro Delyn 1991 | Angharad Tomos | Si Hei Lwli |
1997 | Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau 1997 | Angharad Tomos | Wele'n Gwawrio |
1998 | Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Ogwr 1998 | Eirug Wyn | Blodyn Tatws |
2000 | Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelli a'r Cylch 2000 | Eirug Wyn | Tri Mochyn Bach |
2003 | Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau, Meifod 2003 | Cefin Roberts | Brwydr y Bradwr
|
2010 | Eisteddfod Genedlaethol Cymru Blaenau Gwnt a Blaenau'r Cymoedd, Glynebwy 2010 | Jerry Hunter | Gwenddydd |
2011 | Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r Fro 2011 | Manon Rhys | Neb Ond Ni |
2014 | Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Gâr, Llanelli 2014 | Lleucu Roberts | Saith Oes Efa |
2021 | Eisteddfod Amgen 2021 | Lleucu Roberts | Y Stori Orau |
Enillwyr Gwobr Goffa Daniel Owen
Blwyddyn | Eisteddfod | Buddugwr | Teitl |
---|---|---|---|
1993 | Eisteddfod Genedlaethol Cymru De Powys, Llanelwedd 1993 | Endaf Jones | Mewn Cornel Fechan Fach |
1994 | Eisteddfod Genedlaethol Cymru Nedd a'r Cyffiniau 1994 | Eirug Wyn | Smôc Gron Bach |
2002 | Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Benfro, Tŷ Ddewi 2002 | Eirug Wyn | Bitsh! |
2006 | Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe a'r Cylch 2006 | Gwen Pritchard Jones | Dygwyl Eneidiau |
2014 | Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Gâr, Llanelli 2014 | Lleucu Roberts | Rhwng Edafedd |
2021 | Eisteddfod Amgen 2021 | Lleucu Roberts | Hannah-Jane |