Lôn Wen

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:56, 18 Chwefror 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ffordd wledig sy'n mynd o Rosgadfan i gyrion Y Waunfawr yw'r Lôn Wen, ac fe'i hanfarwolwyd yn y gyfrol Y Lôn Wen, sef atgofion a hunangofiant Dr Kate Roberts, a fagwyd yn Rhosgadfan.

Mae'r Lôn Wen yn cychwyn o ganol pentref Rhosgadfan cyn mynd dros lethrau isaf Moel Smytho ac yna troi'n siarp i lawr gallt serth drwy goed Cyrnant ac ymuno â ffordd fawr yr A4085 o Gaernarfon i Borthmadog ger Gorsaf reilffordd Waun-fawr, Rheilffordd Eryri. Wrth i'r ffordd ymdroelli gyda godreon Moel Smytho ceir golygfeydd godidog ohoni dros wastadeddau Arfon a draw dros Sir Fôn. Ar ddyddiau clir mae mynyddoedd Wicklow yn Iwerddon, a Snaefell ar Ynys Manaw, i'w gweld yn amlwg. Ffordd i'w cherdded yn hamddenol yw'r Lôn Wen os am ei gwir fwynhau. Gyda char, mae angen bod yn ofalus iawn, gan ei bod yn bur gul a throellog mewn mannau, yn enwedig y rhan olaf sy'n mynd i lawr gallt serth drwy'r coed i gyfeiriad Y Waunfawr. Ceir lle parcio hwylus nid nepell o Rosgadfan ar Fraich Moel Smytho ac mae'n lle hyfryd i ymdroi ar ddiwrnod braf. Cafodd yr enw Y Lôn Wen oherwydd ei bod yn ymddangos fel rhuban gwyn o bell yng ngolau'r lleuad flynyddoedd yn ôl pan oedd ei wyneb o gerrig mân a llwch yn hytrach na'r wyneb o fetlin a thar sydd arni erbyn hyn.

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau