Afon Wen (Clynnog Fawr)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:51, 29 Ionawr 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Afon Wen sydd yn codi yn ucheldir plwyf Clynnog Fawr yn llifo tua'r de, Mae un gangen yn codi yn y corsydd i'r gorllewin o dreflan Bwlch Derwin tra bod cangen arall yn llifo heibio i Mynachdy Gwyn ac wedyn ar draws plwyfi Llangybi a Llanystumdwy, nes gyrraedd y môr i'r de o bentref Chwilog gyda'r aber wrthlaw safle hen orsaf drên Afon Wen. Yr hen enw yn y Canol Oesoedd, mae'n ymddangos o siartrau Aberconwy oedd Afon Carrog - ac yn rhyfedd iawn, mae Afon Wen arall yn Uwchgwyrfai sydd yn llifo i mewn i Afon Carrog arall.